Croeso i'r adran heintiau!
Gall croen sych a chroen sydd wedi'i dorri adael eich croen yn fwy tebygol o gael heintiau croen. Mae'r adran hon yn cynnwys lluniau o bobl ag ecsema.
Bydd yn edrych ar:
- Pam mae pobl ag ecsema'n fwy tebygol o gael heintiau croen?
- Sut olwg sydd ar ecsema heintiedig?
- Sut olwg sydd ar ecsema herpeticum?
- Beth am heintiau cyffredinol ac ecsema?
Pam mae pobl ag ecsema yn fwy tebygol o gael haint ar y croen?
Mae gan bawb facteria ar eu croen. Mae pobl ag ecsema'n debygol o gael mwy o facteria ar eu croen a all achosi heintiau croen.
Mae hyn oherwydd bod gan lawer o bobl ag ecsema groen sych. Mae croen sych yn lle da i rai bacteria fyw ynddo. Gall craciau, toriadau, neu grafiadau yn y croen hefyd wneud y bacteria yn fwy tebygol o achosi haint.
Mae'r bacteria hyn yn tyfu mwy ar ecsema nad yw dan reolaeth. Os ydych chi'n dueddol o gael heintiau, y ffordd orau o'u hosgoi yw trwy ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau i reoli'ch ecsema. Dylech chi hefyd ddefnyddio eli lleithio'n rheolaidd trwy gydol y dydd.
Awgrym gwych!
Gall bacteria gronni mewn tybiau o eli lleithio. Gallwch osgoi hyn trwy ddefnyddio peiriant pwmpio. Ond os yw eich eli lleithio'n dod mewn twb gallwch ei dynnu â llwy, yn hytrach na defnyddio'ch dwylo.
Sut olwg sydd ar ecsema heintiedig?
Bydd ecsema heintiedig yn fwy dolurus nag arfer. Mewn croen goleuach, gall ecsema heintiedig edrych yn fwy coch nag arfer. Mewn croen tywyllach, gall edrych yn fwy llwyd, porffor neu frown nag arfer.
Bydd yn dechrau wylo a ffurfio crystiau melyn. Weithiau gallwch chi weld pothelli gwyn neu felyn, neu smotiau crawn o dan y croen.
Rhagor o ddelweddau o ecsema heintiedig
Mae ymchwil wedi canfod y gall y rhan fwyaf o ecsema heintiedig gael ei drin ag eli rheoli fflamychiadau.
Dysgu pam mae defnyddio eli rheoli fflamychiadau'n well na defnyddio gwrthfiotigau
Edrychodd astudiaeth ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd (a elwir yn astudiaeth CREAM) i weld a yw gwrthfiotigau'n helpu plant ag ecsema heintiedig ai peidio. Cymerodd 113 o blant ag ecsema heintiedig ran yn yr astudiaeth.
Canfu canlyniadau'r astudiaeth nad oedd rhoi gwrthfiotigau'n gwneud gwahaniaeth i ecsema heintiedig. Gwellodd heintiau'r plant a ddefnyddiodd eli rheoli fflamychiadau yr un mor dda. Nid oedd gan y plant yn yr astudiaeth ecsema wedi'i heintio'n ddifrifol a bydd angen gwrthfiotigau ar rai pobl o hyd.
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy ecsema wedi'i heintio?
Dylech chi weld eich meddyg os:
- mae'r haint yn lledu neu'n diferu
- mae'r haint yn boenus
- Mae gennych dwymyn neu rydych yn sâl
Os nad oes gennych y symptomau hyn, gallwch chi ei drin trwy ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau. Gallwch chi roi eli rheoli ffamychiadau ar groen sydd wedi torri. Efallai y bydd yn pigo ychydig, ond ni fydd yn achosi unrhyw niwed.
Mae heintiau'n fwy tebygol o ddigwydd ar ecsema nad yw o dan reolaeth ac maent yn aml yn diflannu pan yw croen llidus yn cael ei drin yn iawn.
Ar ôl rhoi cynnig ar eli rheoli fflamychiadau, dylech chi weld eich meddyg os yw'r symptomau yn:
- Gwaethygu
- Peidio â gwella ar ôl 5 diwrnod
Gall rheoli'r ecsema mor dda â phosibl helpu i atal ecsema rhag cael ei heintio.
Gallwch chi wneud hyn trwy ddefnyddio eli lleithio a eli rheoli fflamychiadau.
A all feirws achosi heintiau croen?Mae rhai heintiau'n cael eu hachosi gan feirws megis brech yr ieir, molysgwm, dafadennau a'r frech goch. Nid yw'r heintiau hyn yn fwy cyffredin mewn pobl ag ecsema er y gall dafadennau a molysgwm barhau'n hwy os oes gennych ecsema. Mae hyn oherwydd y gall ecsema atal system amddiffyn y corff rhag cael gwared ar y feirws. Weithiau gall doluriau annwyd achosi haint difrifol mewn pobl ag ecsema, a elwir yn ecsema herpeticum. Bydd yr adran nesaf yn esbonio mwy am y cyflwr hwn. |
Beth yw ecsema herpeticum?
Mae ecsema herpeticum yn cael ei achosi gan y feirws dolur annwyd a gall fod yn ddifrifol iawn. Gall pobl ag ecsema gael doluriau annwyd arferol o amgylch eu gwefusau. Mewn sefyllfaoedd prin, gall y feirws fynd ychydig yn wyllt mewn pobl ag ecsema a heintio rhannau mwy o'r croen.
Mae hyn fel arfer yn hawdd i bobl ei weld oherwydd:
- maent yn anghyfforddus iawn neu'n boenus i'w cyffwrdd
- gallant fod â thymheredd uchel
- mae ganddynt bothelli bach neu gylchoedd bach amlwg o groen sy'n lledu'n gyflym.
Mae cyflyrau eraill sy'n achosi pothelli nad ydynt yn ddifrifol. Gall fod yn anodd dweud y gwahaniaeth. Os nad ydych yn siŵr, ewch i weld eich meddyg teulu neu ewch i'r ysbyty yr un diwrnod er mwyn i chi allu dechrau triniaeth ar gyfer y feirws cyn gynted â phosibl.
Llun o ecsema herpeticum
Beth am heintiau eraill ac ecsema?
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y bydd unrhyw haint penodol, megis y ffliw neu frech yr ieir, yn gwneud eich ecsema'n waeth neu'n well.
Yn gyffredinol, gellir cynnal triniaeth ecsema yn y ffordd arferol yn ystod haint. Gall eli rheoli fflamychiadau waethygu brech yr ieir felly mae'n well peidio â'u defnyddio nes nad oes unrhyw smotiau newydd yn ymddangos.