Croeso i'r adran triniaethau eraill!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Sut gall lapio gwlyb helpu ecsema?
- A all gwrth-histaminau helpu ecsema?
- Sut gall tabledi steroid helpu ecsema?
- Pa driniaethau eraill sydd ar gael?
- Sut gall triniaeth â golau helpu ecsema?
- Pa therapïau cyflenwol neu amgen sydd ar gael ar gyfer ecsema ac a ydyn nhw'n gweithio?
- Beth yw baddonau cannydd ac a ydyn nhw'n gweithio?
Beth yw lapio gwlyb?
Defnyddir lapio gwlyb gyda phobl sydd ag ecsema nad yw'n gwella ar ôl defnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio yn rheolaidd. Ni chaiff ei ddefnyddio'n gyffredinol ar gyfer ecsema dwylo.
Mae ychydig fel gwneud cacen, gyda haenau o eli lleithio a rhwymynnau.
Defnyddiwch haen drwchus o eli lleithio ar y croen lle mae'r ecsema. Mae rhwymyn yn cael ei socian mewn dŵr cynnes, ei wasgu allan, ac yna ei roi ar ben yr eli lleithio. Yna rhoddir rhwymyn sych dros hwn fel haen uchaf. Bydd eich meddyg neu nyrs yn dangos i chi sut i wneud hyn.
Gellir gwisgo'r rhwymynnau o dan ddillad yn ystod y dydd neu o dan ddillad nos yn ystod y nos. Maent yn cael eu cadw ar y person am rai oriau.
Gallwch chi hefyd gael dillad lapio gwlyb y gellir eu defnyddio yn lle rhwymynnau. Mae'r rhain yn dod fel festiau neu legins.
Gallwch chi ddefnyddio lapio gwlyb gyda'ch hufennau rheoli fflamychiadau. Ni ddylid defnyddio'r dull lapio gwlyb oni bai bod eich meddyg neu nyrs yn dweud wrthych am wneud hynny. Ni ddylid ei ddefnyddio os yw eich ecsema yn dueddol o gael ei heintio neu os yw wedi'i heintio ar hyn o bryd. Gall bigo neu gosi pan gânt eu gwisgo gyntaf. Mae hyn yn tueddu i setlo i lawr ar ôl wythnos.
Sut gall lapio gwlyb helpu?
Mae'r rhwymynnau'n helpu i gloi lleithder yn y croen yn well am gyfnod hirach. Gall y rhwymynnau hefyd eich atal rhag niweidio'ch croen trwy grafu.
Mae'r haen waelod gwlyb yn cael effaith oeri a gall helpu i leddfu'r cosi. Gall hyn hefyd eich helpu i gael noson well o gwsg. Mae'r haen sych yn atal eich dillad a'ch dillad gwely rhag gwlychu.
Gallwch chi ddod o hyd i ddolenni i ragor o wybodaeth am lapio gwlyb yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.
A all gwrth-histaminau helpu ecsema?
Mae gwrth-histaminau yn feddyginiaethau a ddefnyddir i wella symptomau alergeddau. Er enghraifft, gellir eu defnyddio i leihau'r cosi a achosir gan glefyd y gwair neu frathiadau gan bryfed.
Nid yw gwrth-histaminau yn helpu i leihau'r cosi mewn ecsema. Mae hyn oherwydd bod y cemegau sy'n gwneud i ecsema cosi yn wahanol i'r cemegau sy'n gwneud i frathiad pryfyn gosi. Fodd bynnag, gwyddom fod pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol. Ni achosir unrhyw niwed wrth eu defnyddio os ydych chi'n eu cael yn ddefnyddiol ar gyfer eich ecsema.
Mae un sefyllfa lle gallai cymryd gwrth-histamin fod yn ddefnyddiol - os oes gennych achos drwg o glefyd y gwair a llawer o gosi o amgylch eich llygaid.
Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i atal y cosi yw cael rheolaeth ar eich ecsema gan ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio.
Gallwch ddysgu rhagor am gosi ac ecsema yn yr adran ‘curo'r cosi’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘byw’n dda ag ecsema’ uchod.
A all gwrth-histaminau fy helpu i gysgu?
Efallai eich bod wedi clywed am bobl ag ecsema yn defnyddio gwrth-histaminau cyn mynd i gysgu.
Nid oes unrhyw dystiolaeth gref bod gwrth-histaminau yn helpu pobl i fynd i gysgu. Serch hynny, mae rhai pobl ag ecsema yn canfod ei fod yn helpu.
Os penderfynwch gymryd gwrth-histaminau cyn mynd i'r gwely dylid eu cymryd oddeutu awr cyn hynny. Dim ond am ychydig ddyddiau ar y tro y dylid eu defnyddio. Mae hyn oherwydd bod pobl yn dod i arfer â nhw'n gyflym ac maen nhw'n stopio gweithio hefyd.
Dylech chi osgoi’r gwrth-histaminau ‘heb achosi cysgadrwydd’ os ydych chi'n rhoi cynnig arnynt i'ch helpu i gysgu. Gallwch chi ofyn i'ch fferyllydd am gyngor ar hyn.
A yw tabledi steroid yn ddefnyddiol ar gyfer ecsema?
Nid ydym yn argymell cymryd tabledi steroid ar gyfer ecsema. Er eu bod yn gweithio yn y tymor byr, gallan nhw wneud eich ecsema gymaint yn waeth yn y tymor hir. Yna mae angen mwy a mwy o dabledi steroid ar eich corff, sy'n ddrwg i'ch corff yn y tymor hir. Fe'i rhoddir fel arfer os yw'ch fflamychiad yn ddrwg iawn.
Mae tabledi steroid yn llawer cryfach na eli steroid. Felly fel arfer dim ond am ychydig ddyddiau y byddwch chi'n eu cymryd i gael rheolaeth ar fflamychiad drwg.
Sut mae tabledi steroid yn gweithio?
Mae system amddiffyn y corff yn gweithio mewn ffordd wahanol mewn pobl ag ecsema. Mae’n ‘gor-ymateb’ i bethau na fyddai fel arfer yn ein niweidio, megis sebonau a hylif golchi llestri. Mae tabledi steroid yn gweithio trwy dawelu system amddiffyn y corff.
A yw tabledi steroid yn ddiogel?
Nid yw tabledi steroid mor ddiogel â eli steroid. Mae tabledi steroid yn cael eu hamsugno i'r llif gwaed. Dyma pam eu bod yn cael effaith llawer cryfach na eli steroid. Os cânt eu defnyddio am gyfnod hir, gallan nhw:
- effeithio ar eich twf a’ch datblygiad
- cynyddu'ch pwysedd gwaed
- cynyddu'r posibilrwydd y byddwch chi'n cael diabetes.
Gallan nhw hefyd effeithio ar eich hwyliau a'ch cwsg, a byddan nhw'n cynyddu'ch chwant bwyd.
Pa driniaethau eraill sydd ar gael?
Gellir defnyddio meddyginiaethau (tabledi, capsiwlau, hylif, neu bigiadau) sy'n tawelu system amddiffyn y corff i drin ecsema difrifol. Maent fel arfer yn cael eu rhoi i bobl sydd ag ecsema nad yw'n gwella ar ôl defnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio yn rheolaidd. Dim ond i bobl sydd dan ofal arbenigwr croen mewn ysbyty y cânt eu rhoi.
Mae'r meddyginiaethau hyn yn tawelu system amddiffyn y corff er mwyn atal fflamychiadau ecsema. Nid ydynt yn iachâd ar gyfer ecsema, ond yn helpu i'w reoli.
Cymerir rhai meddyginiaethau am ychydig fisoedd, tra gellir cymryd eraill am flynyddoedd. Efallai y bydd rhai o'r meddyginiaethau hyn hefyd yn cael eu rhoi fel pigiad.
Mae enghreifftiau o'r meddyginiaethau hyn yn cynnwys:
- Ciclosporin – mae'n cymryd oddeutu 2 wythnos i ddechrau gweithio.
- Azathioprine – mae hyn yn cymryd 2-3 mis i ddechrau gweithio.
- Methotrexate – dim ond unwaith yr wythnos y cymerir hyn ac mae'n cymryd wythnosau i ddechrau gweithio.
- Mycophenolate mofetil (MMF) – mae hyn yn cymryd 3 mis i ddechrau gweithio.
- ‘Cyffuriau biolegol’ (e.g. Dupilumab) – weithiau defnyddir y rhain fel cyfres o bigiadau. Byddan nhw'n cael eu defnyddio pan nad yw'r meddyginiaethau eraill yn y rhestr hon wedi gweithio.
Os oes angen y meddyginiaethau hyn arnoch, bydd eich meddyg neu nyrs yn cynghori pa rai sy'n iawn i chi.
A yw'r triniaethau eraill hyn yn ddiogel?
Mae'r meddyginiaethau hyn yn fwy diogel yn y tymor hir na thabledi steroid. Mae gan lawer sgîl-effeithiau, megis cyfog. Gallai hyn olygu bod angen lleihau faint a gymerwch. Gall y meddyginiaethau hyn hefyd eich gwneud yn fwy tebygol o gael heintiau oherwydd eu bod yn tawelu system amddiffyn y corff.
Mae angen profion gwaed rheolaidd ar y rhan fwyaf o'r meddyginiaethau hyn i wirio nad ydynt yn effeithio ar eich gwaed. Dylech hefyd aros allan o'r haul a dylai menywod osgoi beichiogrwydd tra'n cymryd y meddyginiaethau hyn.
Beth yw triniaeth â golau?
Defnyddir triniaeth â golau i drin ecsema drwg nad yw'n gwella ar ôl defnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio yn rheolaidd. Fe'i gelwir hefyd yn ffototherapi neu olau uwchfioled. Fel arfer dim ond mewn adrannau croen ysbytai y gallwch ei chael.
Mae llawer o bobl yn dweud bod eu hecsema yn gwella pan ydyn nhw mewn heulwen naturiol. Mewn triniaeth â golau, defnyddir y pelydrau uwchfioled (UV) sydd yng ngolau'r haul, i drin ecsema.
Mae therapi â golau yn wahanol i ddefnyddio gwelyau haul neu eistedd yn yr haul. Mewn therapi â golau, mae'r rhan niweidiol o'r golau uwchfioled sy'n rhoi lliw haul i chi wedi'i dynnu allan. Nid yw gwelyau haul yn helpu ecsema.
Sut mae triniaeth â golau yn gweithio?
Mae therapi â golau yn gweithio trwy dawelu system amddiffyn y corff. Nid yw'n iachâd ar gyfer ecsema. Serch hynny, gall leihau fflamychiadau ecsema. Efallai y bydd angen llawer o driniaethau arnoch cyn i chi sylwi ar unrhyw wahaniaeth. Mae hyn oherwydd bod rhaid cronni'r dosau'n araf er mwyn osgoi llosgi.
Gall eich meddyg neu nyrs roi cyngor i chi ynghylch a yw therapi â golau yn addas i chi.
Gallwch ddysgu rhagor am sut mae heulwen yn effeithio ar ecsema yn yr adran ‘tywydd a gwyliau’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.
A yw triniaeth â golau yn ddiogel?
Yn gyffredinol, mae triniaeth â golau yn ddiogel. Ond, gall achosi i'r croen heneiddio'n gynnar a chynyddu'r risg o ganser y croen mewn pobl â chroen goleuach os defnyddir triniaeth â golau dros gyfnod hir o amser.
Gall wneud i'r croen deimlo'n sych ac yn goslyd. Gall hefyd achosi ychydig o gochni sy'n edrych fel llosg haul. Yn anaml, gall pobl gael brech yn ystod y driniaeth â golau. Dylai'r holl effeithiau hyn ddiflannu ag amser.
Gallwch chi ddod o hyd i ddolenni i ragor o wybodaeth am driniaeth â golau yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.
Beth yw therapïau cyflenwol ac amgen?
Mae therapïau cyflenwol ac amgen yn amrywiaeth o ddulliau neu gynhyrchion gofal iechyd nad ydynt fel arfer yn rhan o feddygaeth prif ffrwd. Gallai’r rhain gynnwys:
- Meddyginiaeth lysieuol - yn defnyddio planhigion
- Aromatherapi - yn defnyddio olewau
- Homeopathi - yn defnyddio sylweddau sydd wedi'u dyfrio'n fawr
- Aciwbigo – yn defnyddio nodwyddau mân
- Adweitheg – math o dylino sy’n defnyddio pwysau ar eich traed
- Hypnotherapi – yn eich rhoi mewn cyflwr ymlaciol dwfn
Mae'r therapïau hyn i fod i gael eu defnyddio gyda'ch triniaethau meddygol arferol. Ni ddylent eu disodli.
A yw therapïau cyflenwol ac amgen yn gweithio?
Nid oes tystiolaeth wyddonol bod therapïau cyflenwol ac amgen yn helpu ecsema. Mewn gwirionedd, gall rhai o'r cynhyrchion a'r dulliau a ddefnyddir gan y therapïau hyn wneud eich ecsema'n waeth. Er enghraifft, gall rhai cynhyrchion croen a wneir ag olewau naturiol, megis olew olewydd, achosi fflamychiad ecsema.
Os ydych chi'n defnyddio unrhyw un o'r therapïau hyn, dylech chi brofi unrhyw un o'r cynhyrchion yn gyntaf ar ddarn bach o groen nad oes ganddo ecsema arno. Ond, mae'n dal yn bosibl cael adwaith gan y cynhyrchion, hyd yn oed os na wnaethoch adweithio pan wnaethoch chi eu profi.
Mae rhai pobl ag ecsema yn cael bod therapïau sy'n cynnwys ymlacio neu fyfyrio yn ddefnyddiol ar gyfer delio â straen a mynd i gysgu. Gallwch ddysgu rhagor am hyn yn yr adran ‘emosiynau ac ecsema’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘byw’n dda ag ecsema’ uchod. Mae dolenni i ragor o wybodaeth am driniaeth gyflenwol ac amgen yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.
Beth yw baddonau cannydd ac a ydyn nhw'n gweithio?
Mae baddonau cannydd (neu antiseptig) yn cynnwys cannydd gwan iawn, sef cemegyn cartref a ddefnyddir yn gyffredin fel diheintydd, megis hydoddiant sterileiddio Milton gwanhaëdig ar gyfer babanod. Fe'u defnyddir weithiau i atal heintiau ecsema. Fodd bynnag, ni fu digon o ymchwil eto i ddangos a yw baddonau cannydd yn gweithio, felly ni chânt eu cynghori fel arfer.