Croeso i'r adran gwsg!
Mae llawer o bobl yn cael problemau cysgu oherwydd ecsema a all eich gadael yn flinedig ac yn bigog oherwydd diffyg cwsg. Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn edrych ar bethau a all helpu i dorri'r cylch o golli cwsg.
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Pam na allaf gysgu?
- Awgrymiadau i'ch helpu chi i gosi llai yn y nos
- Beth alla i ei wneud os bydda i'n deffro'n crafu?
- Awgrymiadau i'ch helpu i gysgu
Mae pawb yn wahanol felly mae'n ymwneud â darganfod beth sy'n gweithio i chi. Efallai y bydd yr adran hon yn rhoi rhai syniadau i chi am bethau newydd i roi cynnig arnynt nes i chi ddod o hyd i drefn sy'n gweithio i chi.
Pam na allaf gysgu?
Gall ecsema fod yn achosi i chi ddeffro yn y nos os yw'n goslyd. Os yw eich ecsema yn eich deffro yn y nos, mae'n arwydd ei fod yn mynd allan o reolaeth.
Efallai y bydd angen eli rheoli fflamychiadau arnoch i reoli'r ecsema. Edrychwch ar yr adran 'eli rheoli fflamychiadau' o'r ddewislen uchod i ddysgu rhagor.
Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn rhoi awgrymiadau i chi ar leihau crafu yn ystod y nos a chael noson dda o gwsg.
Sut alla i greu amgylchedd a fydd yn lleihau cosi?
Mae llawer o bobl ag ecsema yn canfod mai cosi yw’r prif beth sy’n eu hatal rhag cael noson dda o gwsg. Gall cosi deimlo'n waeth pan ydych chi'n boeth.
Awgrymiadau i'ch helpu chi i gosi llai yn y nos:
- Defnyddiwch duvet teneuach neu dim ond ychydig o gynfasau yn yr haf.
- Cadwch yr ystafell wely yn oer trwy agor y ffenestr yn ystod y dydd.
- Os oes gennych chi alergedd i baill coed a glaswellt, efallai y byddwch chi am gau'r ffenestr pan fydd yn dechrau tywyllu wrth i lefelau paill godi ar adegau codiad haul a machlud haul.
- Cadwch y gwres canolog yn eich ystafell wely yn isel yn y gaeaf.
- Defnyddiwch gynfasau cotwm plaen os gallwch chi.
- Bydd pyjamas cotwm llac yn helpu i'ch cadw'n oer.
- Cymerwch fath neu gawod tuag awr cyn mynd i'r gwely a defnyddio eli lleithio wedyn. Gall hyn helpu i leddfu'r croen yn ystod y nos.
Beth alla i ei wneud os bydda i'n deffro'n crafu?
Mae rhai pobl yn canfod eu bod yn deffro'n crafu. Weithiau gall hyn dorri'r croen a gwneud iddo waedu.
- Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs os ydych chi wedi defnyddio'ch eli lleithio a'ch eli rheoli fflamychiadau am fwy nag wythnos ac nad yw'r ecsema o dan reolaeth o hyd.
- Gallwch chi gadw eli lleithio ger y gwely rhag ofn y bydd ei angen arnoch yn y nos.
- Mae'n well gan rai pobl gadw eu eli lleithio yn yr oergell fel ei fod yn oer ac yn lleddfol.
- Gall tynnu rhai o'r cynfasau gwely neu eu troi drosodd fod yn braf yn y nos a gall eich cadw'n oer.
- Os ydych chi'n crafu cymaint mae'r croen yn gwaedu, efallai y bydd eich croen yn gallu glynu at y cynfasau. Mae rhai pobl yn ei chael yn ddefnyddiol gwisgo dillad llac neu ddefnyddio rhwymynnau arbennig i amddiffyn rhan y croen. Byddai'n well siarad â meddyg neu nyrs am ddefnyddio rhwymynnau.
- Gallwch ddysgu rhagor am grafu yn yr adran ‘Curo'r cosi’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘byw’n dda ag ecsema’ uchod.
Awgrymiadau i'ch helpu i gysgu
Mae llawer o bobl heb ecsema yn cael trafferth cysgu ac efallai nad ecsema yw'r rheswm dros ddeffro'n aml. Os nad oes gwahaniaeth rhwng pryd mae ecsema yn glir a phan fo fflamychiad, yna mae'n debygol bod rhesymau eraill dros gysgu'n wael.
Mae pobl eraill wedi dweud wrthym y gall crafu ddigwydd yn union cyn cwympo i gysgu, yn arbennig yn ystod cyfnodau o straen neu os ydych chi'n teimlo'n effro.
Cliciwch ar opsiwn isod i ddysgu rhagor am awgrymiadau y mae eraill wedi'u cael yn ddefnyddiol i'w helpu i gysgu:
Dirwyn amser i lawr
Mae llawer o bobl yn cael bod dirwyn i lawr cyn mynd i gysgu yn helpu i leddfu straen naill ai trwy:
- Darllen
- Gwrando ar gerddoriaeth
- Sgriniau i ffwrdd awr cyn amser cysgu
-
Technegau ymlacio – Gallwch ddysgu am rai o’r technegau hyn yn yr adran ‘straen ac ecsema’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘byw’n dda ag ecsema’ uchod.
Gwrth-histaminau (meddyginiaeth ar gyfer clefyd y gwair)
Mae gwrth-histaminau yn feddyginiaethau a ddefnyddir i wella symptomau alergeddau. Efallai eich bod wedi clywed am bobl ag ecsema yn defnyddio gwrth-histaminau cyn mynd i gysgu.
Nid oes unrhyw dystiolaeth gref bod gwrth-histaminau yn helpu pobl i fynd i gysgu. Serch hynny, mae rhai pobl ag ecsema yn canfod ei fod yn helpu.
Os penderfynwch gymryd gwrth-histaminau cyn mynd i'r gwely dylid eu cymryd oddeutu awr cyn hynny. Dim ond am ychydig ddyddiau ar y tro y dylid eu defnyddio. Mae hyn oherwydd bod pobl yn dod i arfer â nhw'n gyflym ac maen nhw'n stopio gweithio hefyd.