Croeso i'r adran Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Beth yw Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)?
- Ydyn nhw'n ddiogel?
- Sut maen nhw'n cael eu defnyddio?
- A ellir eu defnyddio gyda thriniaethau ecsema eraill?
Beth yw Topical Calcineurin Inhibitors (TCIs)?
Fe wnaethom esbonio yn yr adran gyflwyno bod dau fath o eli ar gyfer rheoli fflamychiadau - hufennau steroid a TCIs (Topical Calcineurin Inhibitors). Mae TCIs yn hufenau neu elïau. Mae dau fath a elwir yn aml wrth eu henwau brand:
- Protopic (tacrolimus)
- Elidel (pimecrolimus)
Weithiau defnyddir TCIs ar gyfer rhannau o groen sensitif, megis canol yr wyneb neu'r amrannau. Fel arfer fe'u rhoddir dim ond i bobl sydd:
- angen defnyddio hufen i reoli fflamychiad bob dydd er mwyn cadw rheolaeth
- dan ofal arbenigwr croen yn yr ysbyty
Dim ond ar blant dros 2 flwydd oed y gellir defnyddio TCIs. Ni ddylid eu defnyddio os oes gan eich plentyn gyflwr iechyd sy’n gwneud system amddiffyn ei gorff yn wan.
Sut mae TCIs yn gweithio?
Mae system amddiffyn y corff yn gweithio mewn ffordd wahanol mewn pobl ag ecsema. Mae’n ‘gor-ymateb’ i bethau na fyddai fel arfer yn ein niweidio, megis sebonau a hylif golchi llestri.
Fel hufenau steroid, mae TCIs yn gweithio trwy dawelu system amddiffyn y corff er mwyn lleihau fflamychiadau. Fel hufenau steroid, nid yw TCIs yn iachâd ar gyfer ecsema. Maent ond yn eich helpu i gael rheolaeth ar ecsema eich plentyn wrth eu defnyddio ynghyd ag hufenau lleithio.
A yw TCIs yn ddiogel?
Nid yw TCIs wedi bod ar gael cyhyd â hufenau steroid. Mae'n ymddangos eu bod yn ddiogel, ond nid yw'n hysbys eto beth allai eu sgil-effeithiau hirdymor fod. Am y rheswm hwn fe'u defnyddir yn llawer llai na hufenau steroid.
Gall TCIs bigo neu gosi pan gânt eu rhoi ar y croen gyntaf. Mae hyn yn tueddu i setlo i lawr ar ôl wythnos. Mae rhai hufenau TCI yn pigo mwy nag eraill. Felly efallai y byddwch chi am ofyn i feddyg neu nyrs eich plentyn a allwch chi roi cynnig ar hufen TCI arall os yw un eich plentyn yn pigo llawer.
Gall y rhan o'r croen y mae'r TCIs yn cael eu rhoi arno fynd yn goch neu deimlo'n goslyd neu'n gynnes. Gall rhai pobl gael smotiau coch poenus ar ôl defnyddio TCIs. Dylai'r smotiau hyn setlo ar eu pennau eu hunain.
Mae siawns fach y gallai'ch plentyn gael briwiau annwyd ar y rhan o'r croen y mae'r TCIs yn cael eu rhoi arni yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl eu defnyddio.
Sut mae TCIs yn cael eu defnyddio?
Mae TCIs yn cael eu rhoi ar groen ag ecsema, fel arfer ddwywaith y dydd i ddechrau. Gellir gostwng hyn i unwaith y dydd ar ôl ychydig wythnosau. Bydd meddyg, nyrs neu fferyllydd eich plentyn yn dweud wrthych chi pa mor aml a phryd y bydd angen i chi eu rhoi arno. Mae angen haen denau. Dylid eu defnyddio nes bod y fflamychiad ecsema wedi diflannu. Ni ddylid rhoi TCIs:
- i fyny'r trwyn, yn y geg neu ar y mannau cenhedlol mewnol
- ar rannau heintiedig o'r croen
- ar groen ag impetigo, brech yr ieir, briwiau annwyd neu ddafadennau
Gallai wneud y cyflyrau hyn yn waeth. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y cyflyrau hyn yn yr adran ‘heintiau’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.
Gall TCIs adweithio yng ngolau'r haul neu olau uwchfioled (UV). Dylai'ch plentyn osgoi aros allan mewn golau haul cryf neu ddefnyddio goleuadau UV. Mae hyn yn cynnwys triniaethau goleuadau ar gyfer ecsema. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am driniaethau goleuadau yn yr adran ‘triniaethau eraill’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.
A ellir defnyddio TCIs gyda hufenau lleithio?
Gellir. Bydd angen i chi barhau i ddefnyddio hufenau lleithio bob dydd i gadw rheolaeth ar ecsema'ch plentyn .
Mae'n well gadael bwlch o 20 i 30 munud rhwng rhoi TCIs a hufenau lleithio arnoch. Mae hyn oherwydd y gall yr hufenau lleithio ddyfrio'r TCI gan wneud iddo weithio'n waeth.
Os ydych chi'n defnyddio Protopic (tacrolimus), byddai'n well gadael bwlch o 2 awr os gallwch chi. Ond, rydym yn sylweddoli y gall hyn fod yn anodd ei wneud.
A ellir defnyddio TCIs gyda hufenau steroid?
Gellir, efallai y bydd arbenigwr croen eich plentyn yn rhoi hufennau steroid a TCIs i chi i roi ar ecsema'ch plentyn. Yn aml, rhaid rhoi'r ddau hufen hyn ar wahanol rannau o'r corff.
Weithiau, os yw ecsema'ch plentyn yn wael, efallai y bydd eu harbenigwr croen yn gofyn i chi ddefnyddio hufennau steroid ar y penwythnos a TCIs yn ystod yr wythnos.