Skip to main content

Croeso i'r adran ymolchi, cael cawod a golchi dillad!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Sut gallaf atal ecsema fy mhlentyn rhag gwaethygu ar ôl cael bath neu gawod?
  • A allaf ddefnyddio cynhyrchion ymolchi, megis sebon neu ewyn ymolchi?
  • Beth alla i ei ddefnyddio yn lle sebon?
  • A allaf ddefnyddio siampŵ ar wallt fy mhlentyn?
  • Pa mor aml ddylai fy mhlentyn gael bath?
  • Pa bowdr golchi ddylwn i ei ddefnyddio ar gyfer dillad fy mhlentyn?
  • A fydd meddalyddion dŵr yn helpu ecsema fy mhlentyn?

Sut gallaf atal ecsema fy mhlentyn rhag gwaethygu ar ôl cael bath neu gawod?

Mae bath neu gawod yn helpu i olchi pethau i ffwrdd a allai lidio'r croen ac yn atal heintiau. Mae llawer o deuluoedd hefyd yn ei gael yn ddefnyddiol fel rhan o drefn amser gwely eu plentyn.

Mae rhai pobl yn canfod bod cael bath neu gawod yn gallu sychu eu croen a gwneud iddo gosi mwy. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i atal hyn yw rhoi eli (ointments or creams) lleithio ar eich croen wedyn. Mae hyn yn adfer rhwystr croen eich plentyn ac yn cloi lleithder yn eu croen.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi roi eli ar eu croen unwaith y bydd y croen wedi cael amser i oeri. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag mynd yn rhy boeth.

Efallai y bydd o gymorth i chi sychu'ch plentyn gyda thywel meddal, oherwydd gall rhwbio wneud croen eich plentyn yn goslyd neu'n ddolurus.

Mae llawer o blant yn cael baddonau'n lleddfol ac yn ymlaciol. Os nad yw'ch plentyn yn hoffi cael bath, gall darllen yr adran hon roi syniadau i chi ar gyfer gwneud amser bath yn fwy pleserus.

A allaf ddefnyddio cynhyrchion ymolchi?

Dylai pobl ag ecsema osgoi defnyddio cynhyrchion ymolchi, gan gynnwys sebonau, ewyn ymolchi, geliau cawod, a golch corff. Mae hyn oherwydd eu bod yn sychu'r croen ac yn gallu achosi fflamychiad ecsema.

Beth alla i eu defnyddio yn lle'r cynhyrchion hyn?

Gellir defnyddio'r rhan fwyaf o eli lleithio yn lle'r cynhyrchion ymolchi hyn. Os nad yw hwn yn hawdd i'w ddefnyddio, gallwch chi hefyd ofyn i'ch meddyg neu fferyllydd am gynnyrch ymolchi heb sebon sydd wedi'i wneud ar gyfer ecsema'n unig.

Gallwch chi ddefnyddio'r holl gynhyrchion hyn yn yr un ffordd ag y byddech chi'n defnyddio sebon arferol i ymolchi'ch plentyn yn y bath neu'r gawod, neu wrth olchi eu dwylo. Nid yw'r cynhyrchion hyn yn ewynnu fel sebon arferol, ond maent yr un mor dda ar gyfer glanhau'r croen.

Sut gallwn i ddefnyddio eli lleithio neu olch heb sebon fy mhlentyn fel sebon?

Os yw eli lleithio neu olch heb sebon eich plentyn yn eithaf trwchus, gallwch chi gymysgu llwy de ohono yng nghledr eich llaw ag ychydig o ddŵr cynnes. Yna gallwch chi ddefnyddio hwn i olchi croen eich plentyn.

Gallwch chi hefyd ei roi ar groen sych ac yna ei olchi i ffwrdd yn y bath neu'r gawod. Pa ffordd bynnag y byddwch chi'n ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n golchi'r eli i gyd oddi ar groen eich plentyn cyn ei sychu.

Mae dod o hyd i gynnyrch rydych chi a'ch plentyn yn ei hoffi'n bwysig iawn. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn rhoi cynnig ar ychydig o rai gwahanol cyn setlo ar eu ffefryn.

Fe wnes i ganfod y byddai'r eli lleithio'n gwneud y bath neu'r gawod yn seimllyd iawn. Rwy'n defnyddio mat bath neu hen dywel yn y bath i atal fy nheulu rhag llithro. Rwyf hefyd yn golchi'r bath gyda dŵr poeth a hylif golchi llestri, yn ei rinsio'n dda, yna'n sychu gyda thywel cegin.

Anna

Beth am ychwanegion bath neu esmwythawyr bath?

Gallwch chi hefyd gael triniaeth ecsema y gallwch chi ei arllwys i ddŵr y bath. Gelwir y rhain weithiau’n ‘ychwanegion bath’, yn ‘esmwythawyr bath’ neu’n ‘olewau bath’.

Credwyd un tro y dylech chi ddefnyddio'r triniaethau bath hyn yn ogystal â eli lleithio i gadw rheolaeth ar ecsema. Mae ymchwil bellach yn dweud wrthym, os ydych chi'n defnyddio eli lleithio o leiaf unwaith y dydd, yna nid yw'r triniaethau bath hyn yn ychwanegu unrhyw beth ychwanegol.

Ond, gellir eu defnyddio yn lle sebon, yn yr un ffordd â eli lleithio a golch heb sebon eich plentyn.

Mae James yn hoff iawn o Peppa Pig ar hyn o bryd, felly fe gawsom y botel ewyn bath Peppa Pig hon rydym yn ei llenwi â'i eli lleithio. Mae’n gwneud amser bath yn fwy o hwyl ac yn golygu nad oes rhaid iddo gael ei drin yn wahanol i’w frawd.

Louise

A allaf ddefnyddio siampŵ ar wallt fy mhlentyn?

Nid oes angen siampŵ ar blant dan 1 oed mewn gwirionedd. Nid oes angen siampŵ bob amser ar blant hŷn â gwallt byr. Mae rhai siampŵau'n cynnwys lliwiau, persawr neu sebon a all wneud ecsema yn waeth.

Os oes angen i'ch plentyn ddefnyddio siampŵ, mae'n well defnyddio siampŵ ar gyfer croen sensitif nad yw'n cynnwys unrhyw liwiau na phersawrau a allai wneud ecsema'n waeth. Mae rhai teuluoedd yn ei chael hi’n ddefnyddiol golchi gwallt eu plentyn wrth iddyn nhw bwyso dros y bath i atal y siampŵ rhag dod i gysylltiad â’u croen.

Os ydych chi'n defnyddio'r siampŵau hyn, mae'n bwysig eu golchi oddi ar groen eich plentyn ar unwaith. Gallant waethygu ecsema o hyd os ydynt ar groen eich plentyn am gyfnod rhy hir. Efallai y byddai’n well gennych olchi gwallt eich plentyn yn y gawod. Os gwnewch hyn, ceisiwch beidio â gadael i'r siampŵ redeg ar y corff.

Rydyn ni'n smalio ein bod ni yn y siop trin gwallt ac rwy'n golchi ei gwallt wrth iddi bwyso dros y sinc.

Sandra

Pa mor aml ddylai fy mhlentyn gael bath neu gawod?

Nid oes ateb clir ynghylch pa mor aml y dylai pobl ag ecsema gael bath neu gawod.

Mae llawer o deuluoedd yn cael bod ecsema eu plentyn yn gwaethygu os ydynt yn cael bath neu gawod fwy nag unwaith y dydd.

Y cyngor gorau yw mynd am beth bynnag sy'n gweithio orau i chi a'ch plentyn.

Roedd fy merch yn eithaf coslyd ar ôl y bath, er fy mod i'n rhoi'r eli lleithio arni. Darllenais yn rhywle y gallai bath poeth wneud cosi'n waeth. Felly nawr rwy'n sicrhau nad yw ei bath yn rhy boeth ac nad yw'n aros yno am fwy na 10 munud. Rwy'n meddwl ei fod wedi helpu.

Jibby

Pa bowdr golchi ddylwn i ei ddefnyddio ar gyfer dillad fy mhlentyn?

Efallai eich bod wedi clywed bod powdr golchi neu hylif golchi anfiolegol yn well ar gyfer ecsema, ond nid oes llawer o dystiolaeth wyddonol o blaid hyn.

Bydd rhai brandiau'n gwneud ystod ar gyfer croen sensitif, yr hyn y mae'n well gan rai teuluoedd. Unwaith eto, nid oes llawer o dystiolaeth wyddonol bod y cynhyrchion hyn yn well o gwbl ar gyfer ecsema.

Yn aml, mae'n bosibl defnyddio llawer llai o bowdr golchi neu hylif nag y mae label y cynnyrch yn ei awgrymu. Mae hyn yn golygu y bydd llai o gynnyrch ar ôl ar y dillad.

Ceisiwch beidio â defnyddio meddalydd ffabrig ar olchiad eich plentyn, oherwydd mae ganddo hefyd bethau ynddo a all achosi fflamychiad ecsema.

Rwyf bob amser yn rhoi'r golchiad ar gylch rinsio ychwanegol i wneud yn siŵr bod yr holl sebon yn cael ei rinsio allan.

Sam

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer golchi dillad eich plentyn:

  • Defnyddiwch y swm lleiaf o bowdr golchi neu hylif sydd ei angen. Fel hyn, ni fydd y cynhyrchion hyn yn effeithio cymaint ar groen eich plentyn.
  • Gall eli lleithio gronni a niweidio sêl rwber eich peiriant golchi dros amser. Rhowch olchiad gwag i'ch peiriant golchi ar y tymheredd uchaf bob hyn a hyn i helpu i gael gwared ar unrhyw eli sy'n cael ei adael ar ôl.
  • Wrth roi cynnig ar bowdr golchi neu hylif newydd, golchwch ychydig o eitemau'ch plentyn yn unig i sicrhau nad yw eu croen yn ymateb.
  • Mae rhai teuluoedd yn credu bod hylif golchi'n well ar gyfer ecsema, oherwydd ei fod yn golchi dillad yn well na powdr golchi.

A fydd meddalyddion dŵr yn helpu ecsema fy mhlentyn?

Efallai eich bod wedi clywed y gall dŵr tap caled wneud ecsema yn waeth. Edrychodd astudiaeth ymchwil i weld a allai rhoi meddalydd dŵr yn eich cartref helpu ecsema.

Canfu’r ymchwil nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ecsema pobl. Felly, mae'n annhebygol y bydd meddalyddion dŵr yn helpu ecsema'ch plentyn.