Skip to main content

Croeso i'r adran nofio a gweithgareddau corfforol!

Gall mynd yn chwyslyd weithiau wneud i ecsema fflamychu (flare ups) neu ei wneud yn waeth, ond nid oes angen i chi adael i hynny rwystro eich plentyn. Mae nofio ac ymarfer corff yn wych i iechyd eich plentyn ond efallai y bydd angen cynllunio ychwanegol ar gyfer plant ag ecsema.

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Awgrymiadau ar sut i helpu'ch plentyn i gymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgareddau
  • Beth sydd angen i mi ei wneud wrth fynd â'm plentyn i nofio?

Nid oes unrhyw ymarfer corff na chwaraeon y tu hwnt i'ch gallu. Nid oes rhaid i ecsema eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau.

Awgrymiadau gwych ar gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol

  • Rhowwch gawod neu fath ar unwaith iddyn nhw neu cyn gynted ag y gallwch ar ôl gweithgaredd - mae hyn yn helpu i olchi chwys i ffwrdd a all wneud ecsema'n waeth.
  • Rhowch ddillad llac iddyn nhw eu gwisgo.
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwisgo ffabrigau meddal, llyfn ac anadladwy, megis cotwm. Mae hyn yn fwy caredig i groen eich plentyn na dillad campfa, megis lycra, a allai wneud croen eich plentyn yn rhy boeth.
  • Os ydych chi fel arfer yn defnyddio eli (ointments or creams) lleithio mwy trwchus, ceisiwch ddefnyddio un ysgafnach cyn gweithgareddau. Mae eli lleithio ysgafnach yn cymryd llai o amser i sychu a gallwch barhau i ddefnyddio eich eli eraill yn eich trefn ddyddiol arferol.
  • Mae rhai chwaraeon neu weithgareddau yn cynnwys llwch neu bethau a allai wneud ecsema yn waeth. Er enghraifft, dod i gysylltiad â phaill a glaswellt wrth chwarae mewn cae neu ffwr anifeiliaid wrth farchogaeth. Gall fod yn ddefnyddiol defnyddio hufen lleithio ysgafn cyn y chwaraeon neu'r gweithgareddau hyn.

Mae gan fy mhlentyn groen wedi'i dorri - beth ddylwn i ei wneud?

Gall croen sydd wedi'i dorri fod yn boenus pan ddaw i gysylltiad â chwys. Un ffordd o ddelio â hyn yw atgyweirio'r croen sydd wedi'i dorri gan ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eli rheoli fflamychiadau yn yr adran ‘eli rheoli fflamychiadau’ yn y ddewislen uchod.

Beth sydd angen i mi ei wneud wrth fynd i nofio gyda fy mhlentyn?

Mae llawer o blant ag ecsema yn mwynhau nofio ond gall sychu'r croen. Un ffordd o ddelio â hyn yw trwy wisgo eli lleithio cyn nofio ac ar ôl nofio.

Nid oes angen i chi ddefnyddio haen drwchus o eli lleithio, dim ond digon i amddiffyn y croen. Ar ôl nofio, gall fod yn ddefnyddiol sicrhau bod eich plentyn yn cael cawod ar unwaith, yn patio ei groen yn ofalus, ac yn defnyddio eli lleithio cyn iddo wisgo. Peidiwch ag aros i gyrraedd adref i roi eu eli lleithio arnynt gan y bydd eu croen wedi sychu erbyn hynny. Rhowch gynnig ar yr hyn sy'n gweithio orau i'ch plentyn.

Efallai y bydd rhieni plant iau yn gweld bod yr eli yn gallu gwneud eu plentyn yn llithrig iawn ac yn anodd ei gynnal yn y dŵr.

Dydyn ni ddim yn tueddu i roi eli lleithio arnom cyn nofio oherwydd yn ystod nofio babanod, rydych chi'n dal gafael arnyn nhw drwy'r amser ac maen nhw'n mynd yn llithrig iawn. Ond wedyn, rydyn ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu eli pan ydyn nhw'n dod allan.

Emma

Gall dŵr croyw a dŵr hallt hefyd wneud i groen wedi'i dorri losgi. Os oes gan eich plentyn groen wedi'i dorri, mae'n bwysig defnyddio eli rheoli fflamychiadau i gadw eu croen mewn cyflwr da ar gyfer nofio.

Darganfyddwch a yw clorin yn ddrwg i groen eich plentyn

Mae gan rai pyllau nofio fwy o glorin nag eraill. Er enghraifft, efallai y bydd eich plentyn yn cael fflamychiad ar ôl nofio mewn pwll ar wyliau ond byddwch yn iawn mewn pyllau eraill.

Os yw eich plentyn yn cael fflamychiad gwael ar ôl nofio, efallai y bydd yn help i chi aros nes bod eu croen yn well cyn ceisio eto.

I'r rhan fwyaf o deuluoedd mae hyn yn well na rhoi'r gorau i nofio yn gyfan gwbl gan y gallai fod yn anoddach dysgu nofio yn nes ymlaen.

Dysgu rhagor am nofio yn y môr

Dylai nofio yn y môr fod yn iawn ar gyfer eich plentyn cyn belled â'ch bod yn defnyddio eli lleithio cyn nofio ac yn rinsio'r dŵr hallt i ffwrdd wedyn.

Mae rhai teuluoedd hyd yn oed yn gweld bod dŵr hallt yn helpu ecsema eu plentyn. Ond gall dŵr môr ddal i lidio neu bigo croen eich plentyn. Gall hyn fod yn waeth os yw'r croen wedi torri neu wedi cracio.

Gallwch chi hefyd edrych ar ein hadran ‘tywydd a gwyliau’ i gael gwybodaeth am gadw’ch plentyn yn ddiogel yn yr haul a dewis eli haul. Gallwch chi gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.