Skip to main content

Croeso i'r adran deiet ac alergedd!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • A fyddai osgoi bwydydd penodol yn helpu ecsema fy mhlentyn?
  • Sut ydw i'n gwybod a oes gan fy mhlentyn alergedd bwyd?
  • A ddylai fy mhlentyn gael prawf alergedd?
  • Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n credu bod gan fy mhlentyn alergedd bwyd?

A fyddai osgoi bwydydd penodol yn helpu ecsema fy mhlentyn?

Mae deiet iach a chytbwys yn bwysig i gadw croen a chorff eich plentyn yn iach. Mae'r cyngor arferol am ba fwyd i'w gyflwyno ar ba oedran yn berthnasol i blant ag ecsema hefyd.

Mae llawer o deuluoedd yn poeni y dylai eu plentyn ag ecsema osgoi bwydydd penodol. Ond fel arfer mae pobl yn cael nad yw hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae pethau, megis sebon, yn fwy tebygol o waethygu ecsema'ch plentyn.

Rwy'n teimlo y dylwn i fod yn torri llaeth iddo ef ond byddai'n rhaid i mi ei wneud i'w chwiorydd hefyd neu byddai'n cynhyrfu. Rwyf wedi bod yn meddwl y gallai fod yn ormod o drafferth, ond os oeddwn i'n gwybod y byddai'n helpu byddwn i'n ei wneud.

Ellie

Gall nifer fach o blant ag ecsema gael adwaith i rai bwydydd. Mae dau fath o adwaith bwyd:

1. Alergedd bwyd

Mae alergedd bwyd yn digwydd pan yw corff eich plentyn yn ymateb yn syth i rai bwydydd maent wedi'u bwyta. Efallai y bydd eich plentyn yn dechrau gwichian, yn cael poen bol, neu'n taflu i fyny. Gallai wyneb eich plentyn chwyddo neu gallai gael lympiau (llosg dynad) ar ei groen. Gall eu hecsema hefyd gychwyn yn ystod neu'n fuan ar ôl adwaith.

Mae alergeddau bwyd ychydig yn fwy cyffredin mewn plant ag ecsema, ond nid ydynt yn achosi ecsema yn y rhan fwyaf o achosion. Mae'n fwy tebygol bod ecsema mewn babanod yn eu gwneud yn fwy tebygol o gael alergedd bwyd yn ddiweddarach, nid fel arall.

2. Adweithiau gohiriedig i fwyd a allai wneud eich ecsema'n waeth

Mae nifer fach o deuluoedd ag ecsema yn canfod bod rhai bwydydd yn gallu gwaethygu ecsema eu plentyn. Mae hwn yn fath gohiriedig o alergedd bwyd. Mae adweithiau'n digwydd 1-2 ddiwrnod ar ôl i'ch plentyn fwyta'r bwyd, yn hytrach nag yn syth. Mae'r adweithiau hyn yn cael eu hachosi gan ran wahanol o system imiwnedd y corff nag alergeddau bwyd. Mae'n anoddach profi am adweithiau gohiriedig.

Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn rhoi cyngor i chi ar sut y gallwch chi wybod a oes gan eich plentyn alergedd bwyd neu a yw rhai bwydydd yn gwaethygu eu hecsema.

Cliciwch ar fotwm isod i ganfod a allai fod gan eich plentyn un o'r ddau fath o adwaith:

A oes gan fy mhlentyn adwaith gohiriedig i fwyd sy'n gwaethygu eu hecsema?

Efallai fod gan eich plentyn adwaith gohiriedig i rai bwydydd os:

  • Mae eu hecsema bob amser yn gwaethygu 2 ddiwrnod ar ôl bwyta'r bwydydd hyn.
  • Mae eu hecsema'n eithaf gwael ac nid yw'n gwella ar ôl defnyddio eli rheoli fflamychiadau a eli lleithio

Mae ecsema'ch plentyn yn annhebygol o fod oherwydd adwaith gohiriedig i fwyd os:

  • Dechreuodd eu hecsema ar ôl iddynt fod yn 2 flwydd oed
  • Nid yw eu hecsema'n rhy wael neu mae'n effeithio ar rannau bach o'u corff yn unig yn rheolaidd

Roeddwn yn y Clinig Alergeddau ar gyfer fy alergedd i bysgnau. Felly gofynnais iddyn nhw am ecsema fy merch ond roedden nhw’n meddwl nad oedd yn gysylltiedig â bwyd. A nawr mae hi wedi tyfu allan ohono beth bynnag.

Charlie

A oes gan fy mhlentyn alergedd bwyd?

Efallai fod gan eich mhlentyn alergedd bwyd os:

  • Mae'ch plentyn yn gwichian neu'n cael anhawster anadlu'n syth ar ôl bwyta bwyd penodol. Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn cael pinnau bach yn y geg neu gefn y gwddf, gwefusau neu dafod chwyddedig, bod yn sâl, neu'n llewygu. Os caiff eich plentyn unrhyw un o'r problemau hyn, rhaid i chi alw am ambiwlans ar unwaith i gael cyngor meddygol brys.
  • Mae gan eich plentyn ddarnau coslyd a chwyddedig a brech fel pigiad danadl yn syth ar ôl bwyta neu gyffwrdd â bwyd penodol. Os bydd hyn yn digwydd, ni ddylai'ch plentyn fwyta'r bwyd hwn nes eich bod wedi siarad â'ch meddyg amdano

A oes gan fy maban alergedd bwyd?

Gall fod gan fabanod o dan 6 mis oed alergedd bwyd os:

  • Mae ganddyn nhw ecsema neu frech

AC

  • Mae ganddyn nhw golig hirhoedlog (pan fydd babi yn crio am fwy na 3 awr y dydd)
  • Mae ganddyn nhw anhwylder bol am ddim rheswm. Gall hyn gynnwys bod yn sâl, cael dolur rhydd, neu fod yn rhwym
  • Mae ganddyn nhw waed yn eu baw
  • Nid ydynt yn ennill pwysau. Dylech chi ymweld â'ch meddyg os ydych chi'n credu bod gan eich plentyn alergedd bwyd.

Awgrym gwych!

Efallai y byddwch am roi cynnig ar ddefnyddio eli lleithio fwy na 4 gwaith y dydd a eli rheoli fflamychiadau unwaith y dydd. Os nad yw ecsema'ch plentyn yn gwella ar ôl gwneud hyn am 2 wythnos, yna mae'n werth ymchwilio i adwaith gohiriedig i fwydydd.

Edrychwch ar yr adran ar 'eli ar gyfer rheoli tarddiadau'. Bydd yr adran hon yn dweud wrthych sut i reoli ecsema pan ydych yn cael tarddiad

Pa fwydydd y gallai fy mhlentyn adweithio iddynt?

Llaeth ac wyau yw'r bwydydd mwyaf cyffredin sy'n achosi adweithiau mewn babanod. Pysgnau yw'r bwyd mwyaf cyffredin sy'n achosi adweithiau mewn plant hŷn. Weithiau gall babanod fod ag alergedd i bysgnau.

Ymhlith y bwydydd eraill a all achosi alergedd mae gwenith, pysgod, pysgod cregyn, cnau coed, soia, corbys a rhai ffrwythau.

A ddylai fy mhlentyn gael prawf alergedd?

Nid yw profion alergedd yn dda iawn am ddarganfod beth sy'n gwaethygu ecsema.

Mae hyn oherwydd mai dim ond ar gyfer alergeddau bwyd sy'n ymddangos yn syth y mae profion alergedd yn gweithio'n dda. Nid ydynt fel arfer yn ddefnyddiol ar gyfer adweithiau gohiriedig i fwydydd sy'n digwydd gyda rhai pobl ag ecsema.

Nid yw profion alergedd o'r Rhyngrwyd neu'r Stryd Fawr yn gywir.

Beth ddylwn i ei wneud os credaf fod gan fy mhlentyn alergedd bwyd neu adwaith gohiriedig i fwyd?

Gall y rhan fwyaf o blant reoli eu hecsema trwy ddefnyddio digon o eli lleithio a eli ar gyfer rheoli tarddiadau. Ond, dylech chi weld meddyg eich plentyn os ydych chi'n credu bod ganddo alergedd bwyd.

Efallai y byddwch am roi cynnig ar yr her fwyd os ydych chi'n credu bod eich plentyn yn profi adwaith gohiriedig pan yw eu hecsema'n gwaethygu 1-2 ddiwrnod ar ôl bwyta rhai bwydydd.

 

Dysgu rhagor am yr her fwyd

Mae'r her bwyd yn cynnwys rhoi'r bwyd rydych chi'n credu bod eich plentyn yn adweithio iddo 2 neu 3 gwaith yr wythnos am 2 wythnos i'ch plentyn. Os nad yw eu hecsema yn profi tarddiad, yna mae'n iawn parhau i fwyta'r bwyd. Os bydd eu hecsema'n cychwyn, yna stopiwch y bwyd a rhowch gynnig ar yr her fwyd eto ymhen 2 neu 3 wythnos ar ôl i'r ecsema fynd.

Dim ond pan fydd ecsema eich plentyn dan reolaeth y dylech chi wneud yr her fwyd hon. Mae hyn er mwyn i chi allu gweld yn union beth sy'n digwydd pan yw eich plentyn yn bwyta'r bwyd. Ni ddylech wneud yr her fwyd ar gyfer alergedd posibl pan yw corff eich plentyn yn adweithio ar unwaith.

Os yw eich plentyn yn profi tarddiad ecsema 1 i 2 ddiwrnod bob tro ar ôl bwyta'r bwyd, yna gallai hyn olygu bod y bwyd hwn yn gwaethygu'r ecsema.

Gall torri rhai bwydydd allan ei gwneud yn anoddach dilyn deiet cytbwys. Felly mae'n bwysig siarad â'ch meddyg neu nyrs os ydych am dorri rhai bwydydd allan am fwy na 2 wythnos.

Peidiwch byth â thorri mwy nag un bwyd allan ar y tro. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach fyth i gadw deiet cytbwys. Mae hefyd yn ei gwneud yn anodd dweud pa fwyd sy'n gwaethygu ecsema'ch plentyn.

Pa fwydydd eraill allai effeithio ar ecsema fy mhlentyn?

Gall rhai bwydydd wneud ecsema'n waeth oherwydd bod ganddynt bethau ynddynt sy'n llidio'r croen, yn hytrach nag achosi adwaith alergaidd. Er enghraifft, gall mefus, ffrwythau sitrws (e.e. orennau), a thomatos achosi tarddiad ecsema ar yr wyneb os ydynt yn cyffwrdd â’ch croen, neu os yw’r poer yn aros ar y croen.

Gall rhoi eli lleithio ar yr wyneb a'r gwddf cyn ac ar ôl bwyta'r bwydydd hyn helpu gyda hyn.

Cliciwch ar yr enwau isod i ddarllen straeon gan bobl eraill ag ecsema:

Stori Priyanka

Roeddwn i'n mynd yn wallgof gyda'r holl awgrymiadau gwahanol ar gyfer pethau i'w torri allan. Ar rai dyddiau roedd hi'n iawn ac yna roedd hi'n waeth eto.

Weithiau roeddwn i’n meddwl y gallwn i weld patrwm o’r hyn oedd yn achosi i'w chroen gychwyn ac yna byddai h'n profi tarddiad ac ni allwn i ddod o hyd i reswm. Felly dechreuais gadw dyddiadur bwyd a chanfod nad oedd patrwm mewn gwirionedd gyda'r hyn yr oeddh i'n ei fwyta.

Erbyn hyn rwy'n credu mai'r tywydd yn bennaf sy'n gwneud iddo brofi tarddiad.

Stori Rebecca

Roedd Alex bob amser wedi bod ag ychydig o ecsema, ond nid oedd yn broblem fawr iddo mewn gwirionedd.

Ar ôl oddeutu 18 mis aeth yn waeth. Ar y pwynt pan ddechreuodd ymddangos fel dioddefwr llosgiadau fe benderfynon ni y byddem yn rhoi cynnig ar unrhyw beth. Gwelais y meddyg a ddywedodd wrthyf am roi cynnig ar dorri cynnyrch llaeth allan. Fe wnes i hynny ac fe wellodd yn raddol.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach fe wnaethon ni roi cynnig ar ei roi yn ôl ar laeth arferol ac o fewn ychydig ddyddiau roedd yn waeth. Ond, nawr ei fod yn 3, rydyn ni'n canfod ei fod yn gallu yfed llaeth arferol ac nid yw ei groen yn ddrwg o gwbl - dim byd na allwn ni ei reoli gyda eli lleithio ac ychydig o eli rheoli tarddiadau beth bynnag.

A ddylai fy mhlentyn gymryd atchwanegiadau bwyd?

Mae atchwanegiadau bwyd yn dabledi, hylifau neu bowdrau sy'n cynnwys maetholion y gallwch chi eu hychwanegu at ddeiet arferol. Er enghraifft, fitaminau.

Nid oes tystiolaeth ymchwil glir i ddangos bod atchwanegiadau bwyd yn helpu ag ecsema.

Awgrym gwych!

Fe welwch chi ddolenni i ragor o wybodaeth am y pynciau hyn yn yr adran ‘adnoddau eraill’, y gallwch eu cael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.