Croeso i adran curo'r cosi!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Pam mae ecsema yn gwneud i'm plentyn gosi?
- Beth mae crafu'n ei wneud i'w croen?
- Sut alla i wneud fy mhlentyn coslyd yn fwy cyfforddus?
- Awgrymiadau ymarferol a fydd yn helpu'ch plentyn i beidio â chrafu.
Pam mae ecsema yn gwneud i'm plentyn gosi?
Pan ddaw croen i gysylltiad â phethau y mae'n credu eu bod yn niweidiol, mae'n rhyddhau cemegau naturiol, megis histamin. Mae'r cemegau hyn yn gwneud i'r croen gosi.
Mewn pobl heb ecsema, mae'r cemegau hyn yn diflannu ar ôl ychydig ac mae'r cosi'n dod i ben. Mewn pobl ag ecsema, mae'r cemegau hyn yn cael eu rhyddhau o hyd ac rydych chi'n parhau i deimlo'n goslyd.
Beth mae crafu'n ei wneud i'w croen?
Gwneir cosi hyd yn oed yn waeth trwy grafu neu rwbio. Mae hyn oherwydd bod crafu'n gwneud i groen eich plentyn gredu ei fod dan ymosodiad, sy'n gwneud iddo ryddhau mwy o gemegau. Mae hyn yn gwneud i'ch plentyn deimlo hyd yn oed yn fwy coslyd, sy'n gwneud i'ch plentyn fod eisiau crafu mwy! Gelwir hyn yn gylch cosi-crafu.
Gall crafu niweidio croen eich plentyn hefyd. Gall hyn wneud iddo waedu neu adael i fygiau ddod i mewn fel ei fod yn cael ei heintio. Mae croen wedi'i ddifrodi hefyd yn gadael i bethau sy'n achosi fflamychiadau ecsema basio trwodd yn hawdd, megis sebon neu bowdr golchi.
Gall croen sydd wedi'i ddifrodi gosi wrth iddo wella. Gall hyn ychwanegu at y cylch cosi-crafu.
Sylwais fod gan fy mhlentyn ffyrdd creadigol o grafu man coslyd, a pho fwyaf y mae'n crafu, y gwaethaf y bydd y croen yn mynd. Felly rwy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod y croen wedi'i orchuddio i leihau cyswllt er mwyn rhoi amser i'r croen wella.
Sut alla i wneud fy mhlentyn coslyd yn fwy cyfforddus?
Yn anffodus, mae'ch plentyn yn debygol o ddal i gosi o bryd i'w gilydd, ni waeth pa mor dda rydych chi'n gofalu am eu hecsema. Y peth pwysig yw gwneud eich plentyn mor gyfforddus â phosibl pan yw'n teimlo'n goslyd, a'i helpu i beidio â chrafu a difrodi ei groen.
Bydd yr adran hon yn edrych ar ffyrdd y gallwch chi helpu'ch plentyn i roi'r gorau i grafu a'i addysgu i gymryd rhan fwy gweithredol wrth ofalu am ei groen.
Y peth gorau y gallwch chi ei wneud i guro’r cosi yw cael rheolaeth ar ecsema eich plentyn.
Bydd angen i chi ddefnyddio eli rheoli fflamychiadau os yw'ch plentyn yn cael fflamychiad. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth yn yr adran ‘hufennau rheoli fflamychiadau’.
Bydd hufennau lleithio'n atal croen eich plentyn rhag sychu ac mae croen sych yn arwain at groen coslyd. Gall yr hufen lleithio cywir deimlo'n esmwythol i'ch plentyn. Hefyd, bydd mwytho'r croen yn ysgafn yn lleddfu rhywfaint o'r cosi. Rhowch gynnig ar gadw'r hufen yn yr oergell i weld a yw'n well ganddynt hyn.
Awgrymiadau Gwych!
- Cadwch yn ddigon oer – Defnyddiwch gynfasau cotwm plaen a duvet tenau ar gyfer eich plentyn yn y nos. Bydd dillad llac yn helpu i gadw'ch plentyn yn oer. Mae rhai teuluoedd yn ei chaely'n ddefnyddiol cadw'r ystafell yn oer yn y nos, er enghraifft rhoi'r gwres canolog yn isel neu gael ffan yn yr ystafell wely.
- Cadwch nhw'n brysur - Gall tynnu sylw eich plentyn gyda llyfr, tegan neu gêm eu helpu i anghofio am y cosi.
- Rhowch gynnig ar roi bath neu gawod oer i'ch plentyn - Mae mynd yn rhy boeth yn gwneud cosi'n waeth. Gallai bath neu gawod oer wneud rhyfeddodau i leddfu'r cosi. Patiwch eich plentyn yn sych yn ofalus a defnyddiwch hufen lleithio ar ôl y bath neu'r gawod.
- Rhowch gyngni ar wasgu lliain oer, pecyn gel oeri, neu fag o bys wedi'u rhewi wedi'u lapio mewn tywel ar y rhan o'r croen sy'n cosi.
Sut alla i atal fy mhlentyn rhag crafu?
Dyma rai awgrymiadau a allai'ch helpu i atal eich plentyn rhag crafu:
- Rhowch gynnig ar wisgo menig neu ddyrnfolau cotwm pan yw eich plentyn yn teimlo'n goslyd neu am amser gwely. Mewn babanod, gall rhoi dyrnfolau crafu neu siwt gysgu popeth-mewn-un ymlaen helpu i atal y crafu.
- Cadwch ewinedd eich plentyn yn fyr, gan wneud yn siŵr nad oes ymylon miniog, i gyfyngu ar y difrod i'w groen pan yw'n crafu.
- Gallai fod yn ddefnyddiol sylwi os yw'ch plentyn yn crafu ar adegau penodol o'r dydd, megis tra'n gwylio'r teledu, a'i helpu i ddod o hyd i rywbeth arall i'w wneud. Gall tynnu sylw'ch plentyn gyda thegan neu gêm, neu ddal ei law neu roi hufen lleithio ychwanegol weithio.
- Ceisiwch beidio â dweud wrth eich plentyn am ‘roi’r gorau i grafu’. Gwneir y rhan fwyaf o grafu heb i'r plentyn sylweddoli ei fod yn ei wneud. Yn lle hynny, cynigiwch eu helpu i wisgo eu hufennau lleithio a'i droi'n weithred lleddfol.
- Ceisiwch ofyn i'ch plentyn wneud dwrn am 30 eiliad yn lle crafu.
Mae fy mam bob amser yn dweud wrtha i am beidio â chrafu, sy'n wirioneddol annifyr! Pan yw rhywun yn dweud wrthych am beidio â chosi, mae'n gwneud i chi fod eisiau ei wneud yn fwy.
- Mae rhai teuluoedd yn ei chael yn ddefnyddiol addysgu rhywbeth arall i blant ei wneud, fel dal y man coslyd neu bwyso arno yn hytrach na chrafu. Mae rhai teuluoedd hefyd yn addysgu eu plentyn i ‘dapio’ yr ardal goslyd gyda blaenau bysedd, neu ‘awelu’ aer oer ar y croen gyda ffan neu bapur.
- Mewn plant hŷn, fe allech chi esbonio iddyn nhw y bydd crafu'n gwneud yr ecsema'n waeth. Mae rhai rhieni wedi’i chael yn ddefnyddiol cadw hufen lleithio lle gall eu plentyn ei gyrraedd a’u dysgu sut i’w ddefnyddio eu hunain pan ydyn nhw’n cosi.
Nawr bod fy mab yn hŷn bydd ef weithiau'n oeri ei hun trwy grwydro o amgylch yr ardd am ychydig funudau am amser gwely. Mae'n helpu i'w dawelu a hoffwn pe byddem wedi meddwl amdano'n gynharach. Mae hefyd yn mynnu cysgu gyda'r ffenestr ar agor.
- Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd i’r adran ‘straen a’ch plentyn’ i gael gwybod am rai technegau ymlacio y gallwch eu defnyddio gyda’ch plentyn i dynnu ei sylw pan fydd yn teimlo’n goslyd.
- Mae'ch plentyn yn fwy tebygol o gosi pan nad yw’n cysgu’n dda. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fynd i’r adran ‘cwsg’ i gael cyngor ar sut i gael noson dda o gwsg.
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wrth-histaminau ac a ydynt yn ddefnyddiol ar gyfer ecsema coslyd yn yr adran ‘rhagor am driniaethau'.