Skip to main content

Croeso i'r adran gwsg!

Mae llawer o blant yn cael problemau cysgu oherwydd ecsema a all eu gadael yn flinedig ac yn bigog oherwydd diffyg cwsg. Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn edrych ar bethau a all helpu i dorri'r cylch o golli cwsg.

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Pam na all fy mhlentyn gysgu?
  • Awgrymiadau i helpu'ch plentyn i gosi llai yn y nos
  • Beth all fy mhlentyn ei wneud os bydd e'n deffro'n crafu?
  • Awgrymiadau i helpu'ch plentyn i gysgu

Mae pob plentyn yn wahanol felly mae'n ymwneud â darganfod beth sy'n gweithio i'ch teulu. Efallai y bydd yr adran hon yn rhoi rhai syniadau i chi am bethau newydd i roi cynnig arnynt nes i chi ddod o hyd i drefn sy'n gweithio i'ch teulu.

Pam na all fy mhlentyn gysgu?

Gall ecsema fod yn achosi i'ch plentyn ddeffro yn y nos os yw'n goslyd. Os yw ecsema eich plentyn yn ei ddeffro yn y nos, mae'n arwydd ei fod yn mynd allan o reolaeth. Efallai y bydd angen hufen rheoli fflamychiadau (flare ups) arnoch i reoli'r ecsema.

Edrychwch ar yr adran 'hufennau rheoli fflamychiadau' o'r ddewislen uchod i ddysgu rhagor.

Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn rhoi awgrymiadau i chi ar leihau crafu yn ystod y nos a helpu'ch plentyn i gael noson dda o gwsg.

Sut alla i greu amgylchedd a fydd yn lleihau cosi?

Mae llawer o deuluoedd yn canfod mai cosi yw’r prif beth sy’n atal eu plentyn rhag cael noson dda o gwsg. Gall cosi deimlo'n waeth pan yw eich plentyn yn boeth.

Awgrymiadau i helpu'ch plentyn i gosi llai yn y nos:

  • Defnyddiwch duvet teneuach neu dim ond ychydig o gynfasau yn yr haf i'ch plentyn.
  • Cadwch yr ystafell wely yn oer trwy agor y ffenestr yn ystod y dydd.
  • Os oes gan eich plentyn alergedd i baill coed a glaswellt, efallai y byddwch chi am gau'r ffenestr pan fydd yn dechrau tywyllu wrth i lefelau paill godi ar adegau codiad haul a machlud haul.
  • Cadwch y gwres canolog yn ystafell wely eich plentyn yn isel yn y gaeaf.
  • Defnyddiwch gynfasau cotwm plaen os gallwch chi.
  • Bydd pyjamas cotwm llac yn helpu i gadw'ch plentyn yn oer.
  • Rhowch fath neu gawod i'ch plentyn tuag awr cyn mynd i'r gwely a defnyddio hufen lleithio wedyn. Gall hyn helpu i leddfu'r croen yn ystod y nos.

Beth alla i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn deffro'n crafu?

Mae rhai pobl yn canfod bod eu plentyn yn deffro'n crafu. Weithiau gall hyn dorri'r croen a gwneud iddo waedu.

  • Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs os ydych chi wedi defnyddio hufen lleithio a hufen rheoli fflamychiadau'ch plentyn am fwy nag wythnos ac nad yw'r ecsema o dan reolaeth o hyd.
  • Os bydd eich plentyn yn deffro'n crafu, yna gall gwisgo hufennau lleithio fod yn lleddfol a helpu i oeri'r croen.
  • Gallwch chi gadw hufen lleithio ger y gwely rhag ofn y bydd ei angen ar eich plentyn yn y nos. Mae'n well gan rai pobl gadw eu hufen lleithio yn yr oergell fel ei fod yn oer ac yn lleddfol.

Gall yr hufen lleithio oer o'r oergell fod mor lleddfol iddi pan yw hi'n deffro'n goslyd iawn.

Chris
  • Gall tynnu rhai o'r cynfasau gwely neu eu troi drosodd fod yn braf yn y nos a gall gadw'ch plentyn yn oer.
  • Os yw eich plentyn yn crafu cymaint mae eu croen yn gwaedu, efallai y bydd eu croen yn gallu glynu at y cynfasau. Mae teuluoedd pobl yn ei chael yn ddefnyddiol rhoi eu plentyn mewn dillad llac neu ddefnyddio rhwymynnau arbennig i amddiffyn rhan y croen. Byddai'n well siarad â meddyg neu nyrs am ddefnyddio rhwymynnau.
  • Mae rhai teuluoedd yn ei chael yn ddefnyddiol rhoi dyrnfolau crafu ar fabanod neu blant ifanc i atal eu crafu rhag achosi niwed i'w croen.
  • Gallwch ddysgu rhagor am grafu yn yr adran ‘Curo'r Cosi’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘Cosi, straen a chysgu’ uchod.

Gall fod mor boenus ceisio plicio'r cynfasau o ble mae wedi crafu ei hun yn amrwd. Gyda llewys hir o leiaf os yw'n crafu nid yw'n uniongyrchol ar ei groen.

Bethany

Awgrymiadau i helpu'ch plentyn i gysgu

Mae llawer o blant heb ecsema yn cael trafferth cysgu ac efallai nad ecsema yw'r rheswm dros ddeffro'n aml. Os nad oes gwahaniaeth rhwng pryd mae ecsema yn glir a phan fo fflamychiad, yna mae'n debygol bod rhesymau eraill dros gysgu'n wael.

Mae teuluoedd eraill wedi dweud wrthym y gall crafu ddigwydd yn union cyn cwympo i gysgu, yn arbennig yn ystod cyfnodau o straen neu os ydyn nhw'n teimlo'n effro.

Ar gyfer plant iau, efallai y byddwch am gadw golwg ar faint y maent yn cysgu yn ystod y dydd, gan y bydd hyn yn effeithio ar eu cwsg yn y nos. Gall eu cadw'n effro yn ystod y dydd eu helpu i gysgu'n well yn y nos.
 

Isod mae awgrymiadau y mae eraill wedi'u cael yn ddefnyddiol i helpu'ch plentyn i gysgu. Cliciwch ar flwch i ddarllen rhagor:

Dirwyn amser i lawr

Mae llawer o deuluoedd yn cael bod helpu eu plentyn i ymlacio cyn mynd i gysgu yn helpu i'w blino naill ai trwy:

  • Darllen
  • Gwrando ar gerddoriaeth
  • Sgriniau i ffwrdd awr cyn amser cysgu
  • Technegau ymlacio – Gallwch ddysgu am rai o’r technegau hyn yn yr adran ‘straen a’ch plentyn’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘Cosi, straen a chysgu’ uchod.

Gwrth-histaminau (meddyginiaeth ar gyfer clefyd y gwair)

Mae gwrth-histaminau yn feddyginiaethau a ddefnyddir i wella symptomau alergeddau. Efallai eich bod wedi clywed am bobl ag ecsema yn defnyddio gwrth-histaminau cyn mynd i gysgu.

Nid oes unrhyw dystiolaeth gref bod gwrth-histaminau yn helpu pobl i fynd i gysgu. Serch hynny, mae rhai teuluoedd yn cael ei fod yn helpu.

Ni ddylid rhoi rhai gwrth-histaminau i blant dan 2 oed. Os ydych chi'n ystyried defnyddio gwrth-histamin, siaradwch â'ch meddyg neu fferyllydd.

Gwnewch yn siŵr bod y math a ddewiswch yn rhydd rhag siwgr. Mae hyn oherwydd bod gan rai hylifau gwrth-histamin siwgr ar gyfer blasu. Neu rhowch y gwrth-histamin cyn brwsio dannedd. Gall gwrthhistaminau hefyd wneud rhai plant yn orfywiog.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wrth-histaminauau yn yr adran ‘triniaethau eraill’, y gallwch ei chael o’r ddewislen ‘rhagor am driniaethau’ uchod.