Croeso i'r adran straen a'ch plentyn!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Emosiynau ac ecsema
- Sut y gall ymlacio helpu fy mhlentyn?
- Sut alla i ymlacio gyda fy mhlentyn?
Emosiynau ac ecsema
Gall byw ag ecsema fod yn ingol ar adegau i'r rhan fwyaf o blant ag ecsema.
Efallai na fydd plant iau yn hoffi triniaethau oherwydd eu bod yn pigo neu'n teimlo'n oer neu'n ludiog. Gall plant deimlo eu bod wedi cael llond bol pan nad yw’n ymddangos bod y triniaethau y maent yn rhoi cynnig arnynt yn gweithio. Neu deimlo'n anobeithiol pan ydynt yn cael fflamychiad ecsema, er eu bod wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ofalu am eu croen.
Efallai y bydd adegau pan na fydd eu hecsema yn gwneud iddynt deimlo'n dda amdanynt eu hunain. Efallai y byddan nhw'n poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl neu sut maen nhw'n edrych. Neu deimlo bod eu hecsema yn gwneud iddynt sefyll allan oddi wrth eraill.
Ar ben hyn, gallen nhw deimlo'n flinedig os yw eu hecsema coslyd wedi bod yn eu cadw i fyny yn y nos.
Sut y gall ymlacio helpu'ch plentyn?
Gall ymlacio helpu'ch plentyn i ymlacio cyn amser gwely i'w helpu i gysgu. Gall hefyd helpu i dynnu eu sylw pan ydyn nhw'n teimlo'n goslyd. Gall hyn eu hatal rhag crafu.
Gall ymlacio hefyd eu helpu i:
- Teimlo'n llai blinedig
- Teimlo'n fwy hyderus
- Teimlo y gallan nhw ddelio â sefyllfaoedd anodd yn well
Rwy’n defnyddio symudyn crud fy merch i helpu i gael fy mab i gysgu. Mae'n chwarae cerddoriaeth leddfol a fyddai'n ei ymlacio'n dda iawn. Neu weithiau rwy'n chwarae cerddoriaeth feddal.
Mae fy mab yn ei hoffi pan wyf yn tylino ei hufenau lleithio i mewn. Mae'n gwneud iddo deimlo'n dawel iawn.
Cliciwch chwarae i wrando ar recordiad ymlacio i helpu'ch plentyn i ymlacio.