Croeso i'r adran ar sut i wneud amseroedd triniaeth yn haws!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Sut i wneud amseroedd triniaeth yn fwy o hwyl i'ch plentyn
- Ffyrdd o annog eich plentyn i ddefnyddio ei hufennau lleithio
- Beth i'w wneud os bydd eich plentyn yn gwrthod triniaeth
Gwneud amseroedd triniaeth yn haws
Weithiau gall y rhan fwyaf o deuluoedd ei chael yn anodd rhoi hufennau ar eu plentyn neu gael eu plentyn i roi ei hufennau arno’i hun. Efallai na fydd eich plentyn yn hoffi'r hufennau neu'n cael bod eu rhoi nhw arno'n ddiflas neu'n rhwystredig. Efallai na fyddan nhw'n deall pa mor bwysig yw'r hufenau ar gyfer gofalu am eu croen. Weithiau, gall yr holl beth droi’n faes brwydr neu’n “ryfeloedd hufen” a gall fod yn straen i bawb sy’n gysylltiedig.
Y newyddion da yw bod llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i geisio gwneud amseroedd triniaeth yn well i chi a'ch plentyn.
Darganfod beth sy'n gweithio i chi a'ch plentyn
Nid oes un ffordd gywir o wneud amseroedd triniaeth yn haws - mae pob plentyn yn wahanol. Efallai y byddwch chi'n canfod bod pethau gwahanol yn gweithio'n well ar wahanol oedrannau.
Dyma rai pethau sydd wedi bod yn ddefnyddiol i deuluoedd eraill:
- Gwneud amseroedd hufen yn hwyl gyda gemau a theganau
- Annog a chynnwys eich plentyn wrth roi'r hufennau arno
- Dod o hyd i hufen maen nhw'n ei hoffi
- Gwobrwyo eich plentyn am roi'r hufennau arno, neu am roi hufennau arno ei hunan
- Cynnwys hyn yn nhrefn arferol eich plentyn fel ei fod yn dod yn rhan o'i weithgareddau arferol
- Esbonio ecsema a’r hufennau i’ch plentyn – gallwch ddysgu rhagor am hyn yn yr adran ‘addysgu eich plentyn sut i ofalu am ei ecsema’. Gallwch gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘helpu'ch plentyn i reoli ecsema’ uchod.
Gwnewch amseroedd triniaeth yn hwyl gyda theganau arbennig
Un peth y mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn ei gael yn ddefnyddiol yw gwneud amseroedd triniaeth yn fwy o hwyl fel nad yw'ch plentyn yn teimlo'n ddiflas neu'n rhwystredig.
Mae gan rai teuluoedd degan arbennig y mae eu plentyn ond yn cael chwarae ag ef tra bod eu hufen yn cael ei roi arno.
Roedd ceisio cael yr hufennau arno yn arfer bod yn hunllef llwyr. Awgrymodd ffrind i mi y dylwn i gael tedi arbennig iddo, ac mae’n rhyfeddol gymaint gwell yw e pan rydyn ni’n rhoi’r tedi iddo i chwarae ag ef.
Rwy'n rhoi teganau fy merch yn y peiriant golchi llestri bob hyn a hyn i'w hatal rhag mynd yn seimllyd a budr.
Gwnewch amseroedd triniaeth yn hwyl gyda gemau
Mae rhai teuluoedd yn ceisio canu neu chwarae gemau tra'n rhoi'r hufennau arno i gadw diddordeb eu plentyn.
Mae’n ymwneud â’i ddiddanu wrth i mi wneud yr hufennau – pan oedd yn iau byddwn i'n rhoi tegan iddo, neu’n chwarae gêm. Nawr ei fod yn hŷn rydyn ni'n siarad am ei ddiwrnod a'r hyn rydyn ni wedi'i gynllunio ar gyfer yfory i dynnu ei sylw!
Mae fy merch yn ei hoffi pan wyf yn tylino ei hufenau lleithio i mewn. Mae'n gwneud iddi deimlo'n dawel iawn. Rydyn ni'n smalio ei bod hi mewn sba.
Rydyn ni'n chwarae dot-i-dot gyda'i hufennau lleithio. Rwy'n rhoi rhai smotiau ar ei freichiau a'i goesau ac mae'n eu cysylltu.
Cynhwyswch eich plentyn yn y driniaeth
Gall helpu i gynnwys eich plentyn yn ei driniaeth.
Mae gan rai teuluoedd ddol neu ffigwr gweithredu y gall eu plentyn roi hufen arno ar yr un pryd ag y mae eu hufennau nhw'n cael eu gwneud. Gall hyn fod yn hufen lleithio smalio os ydych chi am osgoi'r llanast!
Wrth i'ch plentyn fynd yn hŷn, gall ddechrau rhoi ei hufen lleithio ei hun ar rannau o'i groen ei hun. Os oes gennych chi blant eraill gallwch chi eu cynnwys nhw hefyd fel bod pawb yn rhan o'r driniaeth!
Rydym yn gadael iddi roi ei hufen lleithio arnaf i, yna rwy'n rhoi'r hufen lleithio arni hi. Fe wnaeth ein helpu ni i ddod trwy gyfnod anodd pan oedd hi'n casáu'r holl beth.
Bethos yw fy mhlentyn yn gwrthod triniaeth
Yn gyntaf, edrychwch ar yr hufen lleithio neu'r hufen rheoli fflamychiadau rydych chi'n ei ddefnyddio. Os nad yw’ch plentyn yn ei hoffi, siaradwch â’ch meddyg, fferyllydd neu nyrs am roi cynnig ar un arall.
Mae llawer o hufennau lleithio gwahanol ar gael, felly mae’n werth rhoi cynnig ar rai gwahanol nes i chi ddod o hyd i un sy’n addas i chi a’ch plentyn. Gallwch ddysgu rhagpr am ddewis hufen lleithio gwahanol yn yr adran ‘hufennau lleithio’, y gallwch ei chyrraedd o’r ddewislen uchod.
Mae hefyd gwahanol fathau o hufennau rheoli fflamychiadau. Gallwch ddysgu rhagor am y gwahanol fathau yn yr adran ‘hufennau rheoli fflamychiadau’, y gallwch ei chyrraedd o’r ddewislen uchod.
Mae'r ddwy adran hyn hefyd yn rhoi cyngor i chi ar beth i'w wneud os yw'r hufen yn pigo.
Ar ôl i mi ddod o hyd i'r hufen iawn dechreuodd popeth syrthio i'w le.
Gwobrwywch eich plentyn am wneud ei driniaethau
Peth arall a all fod o gymorth yw gwobrwyo'ch plentyn am gael ei hufen lleithio wedi'i roi arno neu am ei roi arno ei hun.
Gallai hyn olygu gwylio eu hoff DVD neu chwarae gyda gêm neu degan arbennig ar ôl gwneud y driniaeth.
Mae'n bwysig sicrhau bob amser eich bod yn rhoi'r wobr iddynt ar unwaith, neu efallai na fydd yn gweithio y tro nesaf!
Rwy'n ceisio bod yn gadarnhaol iawn ac yn galonogol pan yw'n rhoi ei hufennau arno. Os yw'r ecsema'n edrych yn well rwy'n tynnu sylw ato ac yn dweud wrtho fod ei waith da'n gwella ei ecsema.
Gwneud hufennau lleithio'n rhan o'u trefn arferol
Gall fod yn ddefnyddiol gwneud defnyddio hufennau lleithio'n rhan arferol o drefn arferol eich plentyn pan yw'n ifanc. Bydd hyn yn eu helpu i gofio a pharhau â hyn yn y tymor hir. Gallech chi roi cynnig ar gael amseroedd penodol neu rannau o'r dydd y dylen nhw eu defnyddio. Er enghraifft, fel rhan o'u trefn deffro ac amser gwely.
Os oes gennych chi blentyn hŷn sy'n anghofio gwneud ei hufennau drwy'r amser, fe allech chi geisio siarad â nhw am sut i ffitio'u hufennau'n well yn eu trefn arferol neu osod nodiadau atgoffa.
Roedd hi'n anghofio rhoi ei hufennau arni drwy'r amser felly fe wnaethom osod larwm i helpu i'w hatgoffa, ychydig cyn amser gwely, fel ei fod yn rhan o'i threfn arferol. Fe wnaethon ni hefyd roi'r hufen wrth ymyl ei brws dannedd yn yr ystafell ymolchi fel y byddai hi'n ei weld, fel ail nodyn atgoffa i'w defnyddio!
Defnyddio siart gwobrwyo
Mae rhai teuluoedd yn ei chael yn ddefnyddiol defnyddio siart gwobrwyo pan yw eu plentyn yn helpu i roi hufen arno. Gall hyn gynnwys aros yn llonydd neu ei roi arno eu hunan.
Er mwyn ei wneud yn fwy o hwyl gallech chi adael i'ch plentyn roi sticeri ar y siart bob dydd y mae'n gwneud ei hufennau. Gall hefyd helpu i roi gwobr iddyn nhw pan ydyn nhw wedi dilyn y drefn yr ydych wedi cytuno arni.
Efallai y bydd yn well gan blant hŷn galendr maen nhw'n ei hoffi yn hytrach na siart gwobrwyo.
Cliciwch ar un o'r siartiau gwobrwyo isod i lawrlwytho fersiwn argraffadwy ohono:
Mae'n llawn cyffro wrth roi sticeri ar ei siart. Ar ddiwedd yr wythnos, os yw'r cyfan wedi mynd yn dda, yna rydyn ni'n rhoi gwobr fach iddo. Wrth i ni roi'r hufen arno rydyn ni'n siarad am beth allai'r wobr fod neu pa mor ddifyr y bydd er mwyn tynnu ei sylw.
Gallwch chi hefyd gynnwys eich plentyn yn yr her 2 wythnos er mwyn iddyn nhw allu gweld drostynt eu hunain y gwahaniaeth y gall defnyddio triniaethau'n rheolaidd ei wneud. Gallwch chi gyrraedd yr her 2 wythnos o'r ddewislen yng nghornel dde uchaf y sgrîn.
Gofalu amdanoch!
Gall llawer o deuluoedd ei chael yn rhwystredig neu'n ingol cael eu plentyn i aros yn llonydd er mwyn i'w hufennau gael eu rhoi arno, neu ei gael i'w rhoi arno ei hunan. Mae'r teimladau hyn yn normal.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar yr adran ‘rheoli straen i rieni’, a fydd yn rhoi rhai ffyrdd i chi o’ch helpu i ddelio â straen. Gallwch chi gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘cosi, straen a chysgu’ uchod.
Gall yr holl beth fod yn eithaf rhwystredig. Pan oedd e'n iau roedd yn arfer rhedeg i ffwrdd, a chrio, nes i ni sylweddoli sut i'w llwgrwobrwyo! Nawr ei fod yn hŷn ac yn gwneud yr hufennau ei hun, rwy'n teimlo bod rhaid i mi ei atgoffa'n gyson oherwydd rwy'n poeni na fydd yn gwneud ei hufennau ac y bydd ei ecsema wedyn yn gwaethygu. Mae'n casáu hynny, wrth gwrs!