Skip to main content

Croeso i'r adran rheoli ecsema yn y feithrinfa a'r ysgol!

Bydd yr adran hon yn edrych ar:

  • Sut gallaf helpu i ofalu am groen fy mhlentyn pan ydyn nhw yn y feithrinfa neu'r ysgol?
  • Sut gallaf helpu fy mhlentyn i ofalu am ei ecsema ei hun panydyn nhw yn yr ysgol?
  • A fydd fy mhlentyn yn ffitio i mewn?

Dechrau yn y feithrinfa neu'r ysgol ag ecsema

Mae llawer o deuluoedd plant ag ecsema yn poeni am eu plentyn pan ydyn nhw'n dechrau yn y feithrinfa neu'r ysgol.

Mae'r pryder hwn yn normal oherwydd efallai y bydd angen gofal arbennig ar eich plentyn ar gyfer ei ecsema yr ydych chi wedi gofalu amdano yn y gorffennol.

Bydd yr ychydig dudalennau nesaf yn awgrymu rhai pethau y gallech chi eu gwneud i sicrhau bod croen eich plentyn yn cael ei ofalu amdano yn y feithrinfa a’r ysgol.

Siaradwch ag athro eich plentyn

Byddai’r rhan fwyaf o deuluoedd yn cytuno ei bod yn bwysig iawn siarad â staff y feithrinfa neu athro eich plentyn cyn gynted â phosibl. Efallai nad ydynt yn gwybod llawer am ecsema. Efallai nad ydynt yn gwybod rhai o’r pethau sydd eu hangen i gadw rheolaeth ar ecsema eich plentyn.

Gallwch ddysgu rhagor am yr hyn a allai helpu meithrinfa neu ysgol eich plentyn i ofalu am groen eich plentyn yn yr ychydig dudalennau nesaf. Ar ddiwedd yr adran hon hefyd mae rhai pethau y gallwch chi eu hargraffu ar gyfer meithrinfa neu ysgol eich plentyn i’ch helpu i egluro ecsema iddyn nhw.

Awgrym gwych!

Rhai pethau a all fod yn ddefnyddiol yw egluro:

  • Beth yw ecsema a'r ffaith na allwch ei ddal
  • Pa driniaethau sydd eu hangen ar eich plentyn a phryd
  • Sut y gallai ecsema effeithio ar eich plentyn
  • Ut gall meithrinfa neu ysgol eich plentyn helpu

Esbonio pa driniaethau sydd eu hangen ar eich plentyn a phryd

Mae’n ddefnyddiol i athrawon, cynorthwywyr lles ysgol, neu staff y feithrinfa wybod pa mor aml y mae ar eich plentyn angen hufennau lleithio a hufennau rheoli fflamychiadau yn ystod y dydd.

Byddai hefyd yn helpu i ddweud wrthyn nhw a oes angen hufen lleithio ar gorff, dwylo neu wyneb eich plentyn cyn gweithgareddau megis nofio, bwyta, paentio, neu fynd allan mewn tywydd oer.

Ar gyfer plant iau, bydd angen i'r athro neu staff y feithrinfa hefyd wybod a all eich plentyn roi'r hufen lleithio arno'i hun, neu a oes angen cymorth arno.

Awgrym gwych!

Os oes angen llawer o ofal ar ecsema eich plentyn yn yr ysgol yna fe allech chi ofyn a allwch chi siarad â nyrs yr ysgol. Efallai nad ydynt wedi'u lleoli yn eich ysgol ond mewn llawer o ardaloedd maen nhw ar gael dros y ffôn. Gallen nhw hefyd ymweld â’ch ysgol i helpu i lunio cynllun triniaeth gyda chi ac athro eich plentyn.

Esbonio sut y gallai ecsema effeithio ar eich plentyn

Gall fod yn ddefnyddiol esbonio sut y gallai ecsema effeithio ar eich plentyn. Cliciwch ar y blychau isod i ddysgu rhagor.

Arferion cysgu

Efallai na fydd athro eich plentyn yn sylweddoli y gall cosi oherwydd ecsema weithiau gadw’ch plentyn i fyny gyda’r nos.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol esbonio hyn iddyn nhw fel eu bod yn deall os yw’ch plentyn wedi blino yn ystod y dydd, neu os oes angen iddo ddod i mewn yn hwyr o bryd i’w gilydd oherwydd ei fod wedi cysgu'n hwyr ar ôl bod i fyny drwy’r nos yn crafu.

Gweithgareddau

Mae’n dda bod eich plentyn yn cymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau â phosibl, ond efallai y byddai’n ddefnyddiol nodi rhai gweithgareddau a allai lidio croen eich plentyn neu ei wneud yn goslyd. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Paentio
  • Gweithio gyda chlai
  • Mynd yn rhy boeth wrth chwarae gemau
  • Eistedd ger ffenestr heulog neu ger rheiddiadur
  • Mynd yn rhy oer yn yr awyr agored
  • Eistedd ar garped
  • Helpu gydag anifeiliaid anwes yr ysgol

Ymarfer corff a nofio

Mae hefyd yn bwysig rhoi gwybod i’r ysgol am unrhyw beth sydd angen ei wneud cyn ymarfer corff neu nofio, megis dillad llac neu wisgo hufennau lleithio. Gweler yr adran ‘nofio a gweithgareddau corfforol’ i ddysgu rhagor am hyn. Gallwch chi gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.

Ymolchi

Mae golchi eu dwylo â sebon yn aml yn gwneud ecsema yn waeth. Galla fod yn ddefnyddiol tynnu sylw at hyn a dweud wrth athro/athrawes eich plentyn beth all eich plentyn ei ddefnyddio yn lle hynny. Gallwch chi ddysgu rhagor am ymolchi yn yr adran ‘cael bath, cael cawod a golchi dillad’, sydd ar gael o’r ddewislen ‘beth all wneud ecsema yn waeth’ uchod.

Awgrymiadau ymarferol ar gyfer pan yw eich plentyn yn y feithrinfa neu'r ysgol

Cynwysyddion:

  • Mae peiriannau pwmpio ar gyfer hufennau lleithio'n haws ac yn llai anniben i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth
  • Chwiliwch am feintiau bach o hufennau lleithio y gall eich plentyn eu cadw yn eu bag
  • Efallai y bydd angen i chi brynu poteli maint teithio a rhoi hufennau lleithio ynddynt eich hun gan ddefnyddio sbatwla neu lwy lân

Cynllun gofal:

  • Rhowch gynllun gofal ysgrifenedig syml i feithrinfa neu ysgol eich plentyn y gallan nhw ei ddilyn neu gefnogi'ch plentyn i’w ddilyn

Awgrym gwych!

Ni fydd meithrinfeydd ac ysgolion yn cymryd triniaethau nad ydynt wedi'u rhagnodi i'ch plentyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r label rhagnodedig ar y cynhwysydd neu rhowch lythyr iddynt oddi wrth eich gweithiwr iechyd proffesiynol.

 

Addysgwch eich plentyn sut i ofalu am ei ecsema

Pan fydd eich plentyn yn ddigon hen, efallai y byddwch chi am ddysgu'r pethau sylfaenol iddyn nhw ar gyfer gofalu am eu croen eu hunain.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘addysgu’ch plentyn sut i ofalu am ei ecsema’, y byddwch chi'n gallu mynd iddi o’r ddewislen ‘helpu eich plentyn i reoli ecsema’ uchod.

Ers iddo ddechrau gofalu am ei ecsema ei hun mae wedi bod yn llawer haws yn yr ysgol gan ei fod yn gallu rhoi’r hufennau arno pan fo angen. Felly ar ôl golchi ei ddwylo mae'n mynd i swyddfa'r ysgol ac yn cael ei hufen. Roedd rhaid i un o'r Cynorthwywyr Addysgu ei atgoffa ar y dechrau, ond gall wneud hynny ar ei ben ei hun nawr.

Luke

A fydd fy mhlentyn yn ffitio i mewn?

Mae rhai rhieni'n poeni am eu plentyn yn ffitio i mewn yn yr ysgol, yn arbennig os yw eu hecsema'n weladwy. Efallai y bydd plant eraill yn chwilfrydig ac yn gofyn cwestiynau i’ch plentyn am eu hecsema, felly efallai y byddai’n help i drafod hyn gydag athro eich plentyn fel ei fod yn barod i ateb cwestiynau o’r fath.

Mae’n ddefnyddiol iawn os yw’r athro'n esbonio nad yw ecsema yn heintus ac yn egluro i’r plant eraill na allan nhw ‘ddal’ ecsema. Gall hefyd helpu i siarad â'r plant eraill am sut beth yw byw ag ecsema. Mae’n bwysig iawn bod y plant eraill yn deall bod plentyn ag ecsema yn blentyn normal sydd â chroen sensitif, coslyd.

Siaradwch â'ch plentyn am esbonio ecsema i bobl eraill

Gall fod o gymorth hefyd i siarad â’ch plentyn am ymateb pobl eraill i’w ecsema o oedran ifanc.

Gallai eu helpu i ddeall nad yw plant eraill fel arfer yn gwybod beth yw ecsema a’u helpu i ddod o hyd i ffyrdd o’i esbonio.

Weithiau bydd plant eraill yn gofyn i’m bachgen bach, “Beth yw hwnna ar dy wyneb?” Mae wedi dod i arfer ag ef nawr ac nid yw'n ymddangos ei fod yn ei boeni. Mae'n dweud, “Ecsema yw e,” ac yna maen nhw'n dechrau siarad am rywbeth arall yn gyfan gwbl. Nid yw'n ymddangos ei fod yn ei boeni.

Emily

Sut gallaf siarad ag athrawon fy mhlentyn am ecsema?

Dyma wybodaeth a allai helpu athrawon eich plentyn i ddeall ei ecsema'n well. Gallwch chi brintio’r rhain i fynd â nhw i feithrinfa neu ysgol eich plentyn.

circle

Rhai pwyntiau pwysig efallai na fydd yr athrawon yn eu gwybod am ecsema. Gall fod yn ddefnyddiol printio neu ysgrifennu hwn i'w roi i athrawon.

circle

Cynllun y gallwch chi ei lenwi ynghylch pa ofal sydd ei angen ar eich plentyn yn y feithrinfa neu'r ysgol. Gallwch chi addasu hyn drwy ddileu pwyntiau nad ydynt yn berthnasol i’ch plentyn neu ychwanegu pwyntiau eraill sy’n bwysig yn eich barn chi. Gallech chi hefyd ysgrifennu eich dalen eich hun gan ddefnyddio rhai o'r syniadau hyn.

circle

Pecyn ecsema i'r ysgol y gellir ei drosglwyddo i ysgol eich plentyn. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ecsema, sbardunau, triniaethau, a gweithgareddau dosbarth. Mae hon yn ffeil PDF ac mae hefyd ar gael o wefan y Gymdeithas Ecsema Genedlaethol