Croeso i'r adran ar baratoi ar gyfer blynyddoedd yr arddegau!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Sut y gallai blaenaeddfedrwydd effeithio ar ecsema
- Awgrymiadau i helpu'ch plentyn wrth iddo fynd trwy flynyddoedd yr arddegau
Cwestiynau cyffredin ynghylch blynyddoedd yr arddegau
Mae llawer o rieni'n poeni am yr effaith y bydd blynyddoedd yr arddegau yn ei chael ar ecsema eu plentyn.
Dyma rai cwestiynau cyffredin y mae rhieni wedi eu rhannu gyda ni. Cliciwch ar y blychau i gael yr atebion i'r cwestiynau hyn a rhai awgrymiadau ar sut i helpu'ch plentyn i reoli blynyddoedd yr arddegau.
A fydd blaenaeddfedrwydd yn gwneud ecsema fy mhlentyn yn well neu'n waeth?
Nid oes unrhyw dystiolaeth bod ecsema'n gwaethygu yn ystod blaenaeddfedrwydd. Mewn gwirionedd, mae 2 o bob 3 o blant ag ecsema yn cael bod eu hecsema'n gwella erbyn eu bod yn 11 oed!
Wedi dweud hynny, hyd yn oed os bydd ecsema'ch plentyn yn gwella, efallai y bydd ei groen bob amser yn fwy sensitif a sychach na chroen pobl eraill. Efallai y byddan nhw'n dal i gael fflamychiadau ecsema o bryd i’w gilydd, felly mae’n bwysig eu bod yn parhau i ofalu am eu croen.
A all fy mhlentyn ddefnyddio colur, cynnyrch cosmetig a diaroglyddion?
Wrth i'ch plentyn fynd yn hŷn efallai y bydd am ddefnyddio cynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi. Er enghraifft, colur, diaroglydd, cynnyrch tynnu farnais ewinedd, persawr, ôl-eillio, cadachau gwlyb ac ewinedd ffug.
Mae llawer o'r cynhyrchion hyn yn gallu gwaethygu ecsema. Mae gan y cynhyrchion hyn yn aml bersawr a chemegau eraill a all lidio neu sychu'r croen.
Fel arfer mae gan gynhyrchion sy’n cael eu ‘profi neu eu hargymell yn ddermatolegol’, ‘hypoalergenig’ neu sydd ar gyfer ‘croen sensitif’ lai o bersawrau ynddynt a gallant lidio’u croen yn llai. Ond eto, ni chafodd y cynhyrchion hyn eu gwneud ar gyfer pobl ag ecsema, felly mae'n anodd dweud yn sicr na fyddant yn gwaethygu eu hecsema.
Mae'n well osgoi cynnyrch cosmetig a nwyddau ymolchi. Os yw'ch plentyn am eu defnyddio, mae'n syniad da rhoi cynnig ar y cynnyrch y tu mewn i'w harddwrn cyn ei ddefnyddio.
Un tric mae pobl ifanc ag ecsema yn dweud eu bod yn ei ddefnyddio yw rhoi persawr neu ôl-eillio ar eu dillad, yn lle eu corff.
Mae pobl ifanc eraill yn dweud eu bod yn defnyddio colur, ond cyn lleied â phosibl, neu dim ond ar gyfer achlysuron arbennig.
Beth am eillio?
Efallai y bydd angen i’ch plentyn fod yn fwy gofalus gydag eillio fel nad yw’n gwaethygu ei ecsema.
Dyma rai awgrymiadau i wneud eillio'n haws iddyn nhw:
- Gall raseli trydan neu docwyr barf fod yn feddalach ar y croen gan eu bod yn llai tebygol o ricio neu dorri'r croen.
- Ar gyfer eillio'n wlyb, mae'n well defnyddio rasel miniog a wneir ar gyfer croen sensitif.
- Mae'n well rhoi hufen lleithio tenau ar y croen cyn eillio ac yna rhoi mwy ymlaen eto wedyn.
- Gall rhai ewynnau a geliau eillio wneud ecsema yn waeth. Opsiwn gwell fyddai defnyddio hufennau lleithio yn lle hynny. Defnyddiwch lawer o ddŵr i'w ewynnu yn union fel ewyn eillio.
- Mae'n well eillio tuag i lawr, i'r un cyfeiriad ag y mae'r gwallt yn tyfu. Mae eillio yn erbyn y gwallt yn gadael pennau miniog a all dorri i mewn i'r croen.
- Eilliwch yn araf a cheisiwch beidio ag eillio dros y mannau rydych chi eisoes wedi'u heillio.
Beth am acne?
Mae llawer o blant yn cael acne (smotiau) pan ydyn nhw'n mynd trwy flaenaeddedrwydd.
Triniaethau acne ac ecsema
Efallai y byddan nhw'n cael bod hufen lleithio trwchus yn gwneud eu hacne'n waeth. Un peth y gallan nhw roi cynnig arno yw defnyddio lleithydd teneuach. Gall hufennau rheoli fflamychiadau hefyd wneud acne'n waeth. Gallai helpu i osgoi rhoi'r hufennau hyn ar yr ardaloedd ag acne.
Defnyddio triniaethau acne os oes gennych chi ecsema
Gall rhai triniaethau acne wneud ecsema yn waeth trwy sychu'r croen. Efallai y byddwch chi am osgoi golchdrwythau acne ag alcohol ynddynt oherwydd eu bod yn tueddu i wneud ecsema'n waeth. Efallai y bydd geliau ac hufennau acne'n well i'ch plentyn. Os oes gennych acne, siaradwch â'ch meddyg neu fferyllydd i ddod o hyd i'r driniaeth gywir i'ch plentyn.
A all straen arholiadau wneud ecsema'n waeth?
Gallai'ch plentyn ganfod bod eu hecsema'n gwaethygu yn ystod amser arholiadau. Mae hyn oherwydd y gall straen achosi fflamychiad ecsema.
Dyma rai awgrymiadau da i helpu'ch plentyn i reoli ecsema yn ystod amseroedd arholiadau:
- Anogwch nhw i gynllunio eu cyfnodau adolygu a'u lledaenu. Mae hyn yn osgoi unrhyw baratoi munud olaf, a all achosi mwy o straen iddyn nhw.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn cymryd amser i ymlacio - cymryd egwyliau, gwneud pethau maen nhw'n eu mwynhau a mynd allan i wneud rhywfaint o ymarfer corff, sy'n dda ar gyfer straen.
- Anogwch nhw i fwyta deiet iach a chael digon o gwsg - bydd hyn yn rhoi llawer o egni iddyn nhw ac yn eu helpu i deimlo ar eu gorau!
- Gwnewch yn siŵr bod yr ysgol yn gwybod am eu hecsema – bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan eich plentyn bopeth sydd eu hangen arnynt mewn arholiadau. Ni ddylai ecsema eu hatal rhag gwneud eu gorau.
- Awgrymwch fod eich plentyn yn gwisgo dillad cotwm llac yn ystod arholiadau a gofynnwch am gael eistedd mewn ardal awyrog ac oer o’r ystafell – mae hyn yn eu hatal rhag mynd yn rhy boeth a chwyslyd, a all wneud eu hecsema'n waeth.
Mae gan fy mab ecsema ar ei ddwylo ac mae'n ei chael yn anodd ysgrifennu am gyfnodau hir o amser. Siaradais â'i athro am hyn a threfnodd ef i fy mab gael amser ychwanegol yn ystod arholiadau. Mae hyn yn rhoi seibiant i'w ddwylo rhag ysgrifennu ac yn golygu bod ganddo amser i roi hufennau arno os yw ei ddwylo'n mynd yn sych ac yn goslyd.
Beth am ddewisiadau astudio a gyrfa?
Does dim rhaid i ecsema atal eich plentyn rhag gwneud yr hyn y mae am ei wneud.
Ond mae’n werth cofio y gallai rhai swyddi wneud eu hecsema'n waeth. Gall swyddi sy'n cynnwys llawer o gysylltiad â dŵr, cemegau neu olchi dwylo wneud ecsema yn waeth, yn arbennig os oes gan eich plentyn ecsema dwylo. Er enghraifft, trin gwallt, nyrsio, mecaneg ceir, garddio, adeiladu neu weithio gyda bwyd. Os hoffai'ch plentyn wneud y mathau hyn o swyddi, bydd angen iddyn nhw ddod o hyd i ffyrdd o amddiffyn eu dwylo a'u croen.
Ni chaniateir i'r rhan fwyaf o gyflogwyr drin rhywun yn wahanol oherwydd bod ganddyn nhw ecsema. Dylen nhw ganiatáu i'ch plentyn ofalu am eu hecsema yn y gwaith. Ond efallai na fydd rhai cyflogwyr, megis y lluoedd arfog, yr heddlu a’r gwasanaeth tân, yn gallu cymryd pobl ag ecsema gwael iawn.
Pan fydd eich plentyn yn hŷn, efallai y bydd yn ddefnyddiol trafod ei opsiynau gyda chynghorydd gyrfaoedd.
Sut alla i helpu fy mhlentyn i reoli eu hapwyntiadau eu hunain gyda gweithwyr iechyd proffesiynol
Wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn, gall helpu i’w cynnwys mewn sgyrsiau â gweithwyr iechyd proffesiynol os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes.
Gall hyn fod ychydig yn od i rai rhieni pan ydyn nhw wedi gwneud yr holl siarad am yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ond gall hyn helpu eich plentyn i ddod i arfer â siarad â'i feddyg neu nyrs fel y gall wneud hyn yn y dyfodol.
Wrth i'ch plentyn fynd yn hŷn, efallai y byddwch chi am ofyn a yw am fynd i'r apwyntiad ar ei ben ei hun. Mae fel arfer yn dda i rywun 16 oed ac iau ddod ag oedolyn gyda nhw. Weithiau gallai'r meddyg neu'r nyrs ofyn am gael siarad â'ch plentyn ar ei ben ei hun. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ofyn unrhyw gwestiynau y maent am eu gofyn ar eu pen eu hunain. Peidiwch â phoeni os bydd hyn yn digwydd, mae hyn yn normal.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i wneud yr ychydig apwyntiadau cyntaf yn haws i'ch plentyn:
- Cyn yr apwyntiad siaradwch â'ch plentyn am yr hyn y mae am ei ddweud wrth ei weithiwr iechyd proffesiynol.
- Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu'r hyn y maen nhw am ei ofyn a'u hannog i ofyn y cwestiynau hyn eu hunain.
- Anogwch nhw i siarad trwy eu cynnwys yn y sgwrs os ydyn nhw'n rhy nerfus i ddechrau.
- Gwiriwch gyda nhw eu bod wedi deall yr hyn a ddywedodd y gweithiwr iechyd proffesiynol. Mae rhai rhieni yn cael eu plentyn i egluro'n ôl iddynt yr hyn a ddywedodd y meddyg er mwyn sicrhau eu bod yn deall.
- Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn delio ag unrhyw slipiau apwyntiad neu sgriptiau presgripsiwn i'w annog i gymryd rheolaeth ar eu hecsema eu hunain