Croeso i'r adran ar addysgu'ch plentyn sut i ofalu am ei ecsema!
Bydd yr adran hon yn edrych ar:
- Addysgu eich plentyn am ecsema
- Addysgu eich plentyn sut i ddefnyddio ei hufennau lleithio
- Sut i gefnogi'ch plentyn i ofalu am ei ecsema ei hun wrth iddo fynd yn hŷn
Helpu'ch plentyn i ddysgu sut i ofalu am ei ecsema ei hun
Rydym yn gwybod bod teuluoedd weithiau’n poeni am sut y bydd eu plentyn yn rheoli ei ecsema wrth iddo fynd yn hŷn.
Mae cynnwys eich plentyn yn raddol yn ei driniaeth wrth iddo fynd yn hŷn yn ffordd dda o ddechrau ei addysgu sut i ofalu am ei ecsema.
Pan oedd hi'n iau, fe ddechreuon ni ei chynnwys hi wrth roi ei hufennau lleithio arni. Fe'i gwnaeth hi gymaint yn haws felly, iddi ddechrau ei wneud ar ei phen ei hun wrth iddi fynd yn hŷn.
Addysgu eich plentyn am ecsema a sut i'w drin
Gall helpu os yw'ch plentyn yn deall beth yw ecsema, a pham mae angen iddo ddefnyddio hufennau gwahanol i'w wella.
Rwyf bob amser wedi ceisio esbonio beth rydym yn ei wneud a pham - rwy'n dweud wrthi ein bod yn rhoi'r hufen arni i wneud i'w chroen deimlo'n well, ac yna mae'n hapus i'w cael - weithiau mae hi hyd yn oed yn gofyn am yr hufen oherwydd mae hi'n gwybod y byddan nhw'n gwneud iddi deimlo'n llai coslyd a phoenus.
Rwy'n dweud wrtho mai 'chi a fi yn erbyn yr ecsema ydyw, nid chi yn fy erbyn i'. Mae'n ymddangos ei fod yn deall pan wyff yn dweud hynny.
Gallech chi wylio'r fideo hwn ar 'beth yw ecsema' gyda nhw i'w helpu i ddeall beth yw ecsema a sut mae'n cael ei drin.
Darllenwch fersiwn testun o'r fideo yma
Imagine the skin as a brick wall made from skin cells and water. The skin cells are the bricks and the moisture around them are like cement. Moisture keeps everything together. This brick wall forms a natural barrier that stops harmful things from getting into our bodies and also keeps moisture from drying out.
In someone without eczema, the moisture around the bricks keeps everything in place and the bricks keep their shape. This stops cracks forming between the bricks, so things that may cause your skin to react do not pass through the wall.
In someone with eczema, this wall does not work as well as it should. Their skin makes less moisture, which causes gaps in the wall.
These gaps let moisture out, making the skin dry. It also lets in things that make eczema worse, such as pollen. This can cause the skin to react, making it itchy and sore. In lighter skin, this may make the skin look red. In darker skin, skin may look grey, purple, or brown. This change in the skin is called an eczema flare-up.
Other things like soap or washing-up liquid, can break down the barrier further and can make eczema worse.
Two treatment creams help with eczema. Moisturising creams, known as emollients, help fill up the cracks in the wall, keeping moisture in. They create a barrier to stop things that would make your eczema worse from passing through the skin. Flare control creams, which are usually steroid creams, help reduce the flare-up when something does pass through the wall.
Pryd ddylwn i adael i'm plentyn ddechrau rhoi ei hufen lleithio ei hun arno?
Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn canfod mai oedran da i wneud hyn yw tua'r oedran y mae plant yn dechrau yn yr ysgol gynradd, er y gallwch chi ddechrau'n gynharach.
Pan yw eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol efallai y byddwch chi'n cael bod angen iddo gymryd mwy o reolaeth dros ei driniaethau ecsema er mwyn iddo allu gofalu am ei ecsema pan yw ef allan yn rhywle. Er enghraifft, yn ystod adegau cysgu dros nos, ar deithiau i ffwrdd o'r cartref gyda'r ysgol neu glybiau, neu os oes angen iddynt ddefnyddio hufennau'n amlach.
Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am sut i reoli ecsema yn y feithrinfa a’r ysgol yn yr adran ‘rheoli ecsema yn y feithrinfa a’r ysgol’. Gallwch gyrraedd yr adran hon o’r ddewislen ‘helpu'ch plentyn i reoli ecsema’ uchod.
Addysgu eich plentyn sut i ddefnyddio hufennau lleithio
Mae’n dda dangos i’ch plentyn sut i roi’r hufen arno. Gofynnwch iddyn nhw gopïo'r hyn rydych chi'n ei wneud er mwyn iddyn nhw weld faint o hufen i'w ddefnyddio, a sut i'w roi arnynt - gan ddefnyddio digon o hufen mewn symudiadiau i lawr i'r un cyfeiriad ag y mae'r gwallt yn tyfu. Does dim angen rhwbio hufennau i mewn yn galed - meddyliwch amdano'n fwy fel tyliniad ysgafn.
Gallech chi wylio'r fideo ar hufennau lleithio gyda nhw i'w helpu i ddeall yr hufennau hyn yn well.
Darllenwch fersiwn testun o'r fideo yma:
Adroddwr: Nid yw bob amser yn hawdd bod ag ecsema a gorfod gweithio i gadw'ch croen yn feddal ac yn hapus. Mae ein croen yn rhwystr fel wal sy'n ein hamddiffyn.
Mae croen ecsema angen help gan hufennau lleithio i gloi lleithder i mewn a chadw pethau allan sy'n gwneud ecsema'n waeth. Mae gan yr hufennau lleithio hyn lawer o bethau da ynddyn nhw i wneud y croen yn gryfach ac atal fflamychiadau. Maen nhw wedi'u cynllunio ar gyfer ecsema yn unig. Felly, yn wahanol i leithyddion cosmetig, ar y cyfan nid oes ganddyn nhw unrhyw bersawr na chemegau ynddynt a allai wneud eich ecsema'n waeth. Gelwir hufennau lleithio hefyd yn esmwythawyr. Maent yn dod mewn gwahanol ffurfiau megis elïau, hufennau, geliau a golchdrwythau. Gall y rhain ddod mewn tybiau, pympiau, tiwbiau neu chwistrellau. Mae gan bob un yr un nod felly mae'n ymwneud â dod o hyd i un sy'n gweithio i chi. Beth sy'n gweithio i chi?
Person 1: Felly nid yw bob amser yn hawdd, ond rwy'n eithaf da am gadw rheolaeth ar fy ecsema os ydw i'n cadw at fy nhrefn ddyddiol. Rwy'n ceisio defnyddio fy hufen lleithio ddwywaith y dydd o leiaf! Hyd yn oed pan yw fy ecsema eisoes yn dda iawn, rwy'n dal i fynd. Yn union fel brwsio fy nannedd - rwy'n ei wneud bob bore pan wyf yn codi a bob nos cyn mynd i'r gwely. Rwy'n cadw tiwb bach gyda mi rhag ofn i'm croen deimlo'n goslyd neu'n sych yn ystod y dydd. Ond rwy'n trio cadw trefn neu fel arall rwy'n anghofio. Ac os ydw i'n anghofio, weithiau mae'r ecsema'n fflamychu eto.
Person 2: Rwy’n cytuno, i mi, pan yw fy ecsema'n fflamychu mae’n well defnyddio’r hufennau rheoli fflamychiadau yn ogystal â’m trefn arferol o hufennau lleithio. Rwy'n gadael bwlch o 20 munud er mwyn peidio â gwanhau'r hufennau. Mae'n gweithio'n dda os ydw i'n defnyddio fy hufennau lleithio yn y bore ac am amser gwely, sef yr hyn rwy'n ei wneud fel arfer, ac yna os ydw i angen fy hufen rheoli fflamychiadau yna rwy'n ei roi arnaf ar ôl dod adref.
Person 3: Ar ddiwrnodau sych, fe wnes i ganfod fy mod i'n defnyddio hufennau lleithio dros fy nghorff cyfan, ac yn arbennig fy smotiau fflamychu arferol. Rwy'n ceisio ei lyfnu i mewn a pheidio â'i rwbio i mewn, oherwydd gall ei rwbio wneud fy nghroen yn goslyd. Ac rwy'n ei roi arnaf tua'r un cyfeiriad ag y mae fy ngwallt yn tyfu. Wedyn rwy'n gadael iddo socian i mewn wrth i mi wrando ar fy hoff dôn cyn rhoi fy nillad arnaf.
Adroddwr: Felly, dyna chi, mae hufen lleithio'n ffurfio haen amddiffynnol dros y croen. Mae hyn yn cloi lleithder i mewn AC yn atal pethau a allai wneud ecsema'n waeth rhag mynd i mewn. Mae'n bwysig defnyddio lleithyddion hyd yn oed pan yw eich croen yn edrych yn dda er mwyn atal fflamychiadau. Gall defnyddio hufennau lleithio bob dydd eich helpu i gadw rheolaeth ar ecsema a chael croen cyfforddus ac iach.
A ddylwn i adael i'm plentyn roi ei hufennau rheoli fflamychiadau ei hunan arno?
Mae llawer o deuluoedd yn penderfynu aros nes bod eu plentyn ychydig yn hŷn cyn iddynt ddechrau eu helpu i ddefnyddio eu hufennau rheoli fflamychiadau eu hunain
Hyd yn oed os nad yw'ch plentyn yn rhoi'r hufennau hyn arno'i hun, gall fod yn ddefnyddiol deall beth yw hufennau rheoli fflamychiadau a sut i'w defnyddio. Mae hyn er mwyn iddynt allu dechrau sylwi pan yw angen iddynt eu defnyddio.
Gallech chi wylio'r fideo ar hufennau rheoli fflamychiadau gyda nhw i'w helpu i ddeall yr hufennau hyn yn well.
Darllenwch fersiwn testun o'r fideo yma
Adroddwr: Sut ydym yn cael rheolaeth ar ecsema? Mae pobl ag ecsema'n profi fflamychiadau, sy'n gwneud y croen yn boenus ac yn goslyd. Mewn croen goleuach, gall hyn edrych yn goch. Mewn croen tywyllach, gall edrych yn llwyd, porffor neu frown. Mae hufennau rheoli fflamychiadau, sydd fel arfer yn hufennau steroid neu'n elïau, yn helpu i leihau'r fflamychiad. Meddyliwch am hyn fel y driniaeth i ddiffodd y fflamychiad ecsema yn union fel mae diffoddwr tân yn diffodd tân.
Mae'r steroidau yn yr hufenau hyn fel y rhai a gynhyrchir yn naturiol gan y corff ac felly maen nhw'n dda iawn am drin croen poenus a choslyd. Maent hefyd yn helpu'r croen i wella. Mae hufennau steroid yn ddiogel os cânt eu defnyddio'n gywir. Rwyf wedi gofyn i rai pobl ag ecsema am eu hawgrymiadau ar gyfer defnyddio hufennau steroid. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cytuno bod y rhain yn awgrymiadau gwych.
Person 1. Dywedodd y dermatolegydd wrthyf mai dim ond haen denau sydd ei hangen arnaf a dim ond ar y rhannau lle mae ecsema arnaf. Mae'n ddiogel rhoi hufennau steroid ar groen sydd wedi torri. Mae'n teimlo'n bigog ond rwy'n sylwi nad yw'n pigo unwaith y bydd y croen yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau.
Person 2. Rwy'n ceisio defnyddio hufennau rheoli fflamychiadau cyn gynted ag yr wyf yn sylwi ar fflamychiad; mae'n gwneud iddo ddiflannu'n gyflymach! Rwy'n eu defnyddio unwaith y dydd pan wyf yn cael fflamychiad.
Person 3. Cefais ei bod yn well parhau i ddefnyddio'r hufen rheoli fflamychiadau am ddau ddiwrnod ar ôl i'r croen ddychwelyd i normal a theimlo'n feddal. Os nad wyf yn gwneud hynny, rwy'n gweld ei fod yn dod yn ôl yn gyflymach. Weithiau gall ecsema fod o dan y croen hyd yn oed pan yw'n ymddangos yn iawn.
Person 4. Pan wyf yn profi fflamychiad rwy'n parhau i ddefnyddio hufennau lleithio (esmwythawyr) bob dydd i helpu i leddfu'r croen ac atal fflamychiadau yn y dyfodol. Fe wnaeth fy ngweithiwr iechyd proffesiynol argymell bwlch o 20 munud o leiaf a dywedodd nad oedd ots ym mha drefn yr wyf yn eu defnyddio. Fel arfer rwy'n rhoi fy lleithyddion ymlaen yn y bore a gyda'r nos felly rwy'n dal i wneud hynny ond yna rwy'n ychwanegu fy hufen rheoli fflamychiadau arnaf wedyn pan wyf yn dod yn ôl adref yn lle aros o gwmpas am y bwlch o 20 munud!
Adroddwr: Ar gyfer fflamychiad ecsema ysgafn, fel arfer mae'n cymryd 5-7 diwrnod i gael y fflamychiad dan reolaeth. Ar gyfer darn mwy trwchus o ecsema neu fflamychiad mwy difrifol gall gymryd ychydig wythnosau. Os na fydd fflamychiad ecsema'n dechrau gwella ar ôl wythnos, dylech chi weld eich meddyg neu nyrs oherwydd efallai y bydd angen hufen gwahanol arnoch. Bydd rheoli ecsema gan ddefnyddio hufennau rheoli fflamychiadau'n helpu i atal y fflamychiad rhag gwaethygu a bydd yn helpu'ch croen i wella'n gyflymach. Unwaith y byddwch chi'n cael rheolaeth gyda hufennau rheoli fflamychiadau yna cadwch reolaeth gyda hufennau lleithio.
Gadael i'ch plentyn gael mwy o reolaeth dros wneud eu hufennau
Wrth i'ch plentyn fynd yn hŷn, gall fod yn anodd gadael iddo gymryd mwy o reolaeth dros wneud ei driniaethau. Hyd yn oed yn fwy felly os byddwch yn sylwi nad ydyn nhw'n defnyddio'r triniaethau pan ddylen nhw!
Mae llawer o blant hŷn yn dweud eu bod nhw am fyw bywyd normal a gwneud yr un pethau â’u ffrindiau. Gall hyn olygu weithiau nad ydyn nhw bob amser yn gofalu am eu hecsema cystal ag y gallen nhw.
Er enghraifft, efallai y gallen nhw hepgor eu hufennau os ydyn nhw'n cysgu dros nos neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau a allai waethygu eu hecsema, megis nofio.
Roeddwn i wir yn teimlo drosti - roedd hi am wneud yr hyn roedd y plant eraill yn ei wneud ond roedd y ddau ohonom yn gwybod na fyddai'n dda i'w hecsema.
Helpu eich plentyn i gydbwyso eisiau bywyd normal â gwneud eu hufennau
Un peth a all helpu yw siarad â'ch plentyn am gynllunio ar gyfer gweithgareddau a allai effeithio ar eu hecsema. Gallan nhw ddefnyddio eu hufennau lleithio cyn ac ar ôl gweithgareddau fel y gallan nhw wneud yr hyn a fynnant ond dal i ofalu am eu croen.
Gall helpu i nodi y bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y gallan nhw barhau i wneud y gweithgareddau hyn oherwydd y bydd eu hecsema dan reolaeth well.
Ceisiais siarad â hi am ba fath o bethau roedd hi'n credu eu bod yn gwneud ei hecsema'n well ac yn waeth ac roedd ganddi syniad eithaf da. Felly rwy'n meddwl ei bod hi'n gwybod beth mae'n rhaid iddi ei wneud ond mae hi dal angen help i gofio a chynllunio a mynd â hufennau gyda hi.
Helpwch eich plentyn i reoli eu triniaethau
Un o'r pethau y mae plant hŷn yn ei ddweud wrthym yw eu bod yn teimlo bod swnian yn annifyr iawn - a'i fod yn gwneud iddynt beidio â bod eisiau rhoi'r hufennau arnynt!
Weithiau gall rhoi ychydig o ofod fod yn ddefnyddiol. Gall hyn roi cyfle i’ch plentyn reoli ei hufennau a hefyd i ddysgu beth sy’n digwydd os nad yw’n defnyddio ei hufennau. Mae llawer o blant hŷn yn dod yn ymwybodol iawn o sut olwg sydd arnyn nhw. Maen nhw'n gweld yn fuan y gall gofal croen da wneud i'w croen edrych yn well.
Os ydych chi'n poeni, gallech chi geisio gofyn iddyn nhw sut maen nhw'n dod ymlaen â'u hufennau i weld a allwch chi eu helpu i benderfynu beth y gallen nhw ei wneud yn well. Neu gallech chi geisio gosod terfyn ar y nifer o weithiau y byddwch chi'n eu hatgoffa – fel unwaith neu ddwywaith yr wythnos os oes ei angen arnyn nhw.
Roeddwn i'n arfer poeni'n fawr nad oedd hi'n defnyddio ei hufennau. Roedd rhaid i mi ddysgu camu yn ôl ychydig er mwyn iddi ddysgu eu defnyddio ar ei phen ei hun - er y byddwn i'n dal i ofyn iddi o bryd i'w gilydd a hoffai i mi ei hatgoffa neu ei helpu.